Nataliia Luhyna

Job Role
Swyddog Prosiect ASTUTE, Darlithydd Sesiynol mewn Peirianneg Fecanyddol
Ystafell
Y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Deunyddiau Cyfansawdd neu C130

Derbyniodd Nataliia ein BEng (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Genedlaethol Chernihiv  (Iwcrain) yn 2010. Ar ben-blwydd y Brifysgol yn hanner can mlwydd oed, fe’i henwyd fel un o’r myfyrwyr mwyaf nodedig ac fe ddyfarnwyd iddi Ddiploma Anrhydeddus, ‘Rhagoriaeth mewn Addysg’.

Ar hyn o bryd mae Nataliia yn ymgymryd ag ymchwil PhD mewn cineteg caledu nanogyfansoddion epocsi clyfar (ag iddynt sail garbon nanotiwb) gan ddefnyddio gwahanol dechnegau caledu (confensiynol, tonfedd microdon a radio). Mae wedi cyhoeddi ymchwil o safon a ganolwyd yn seiliedig ar gyfansoddion matrics ac mae wedi mynychu a chymryd rhan mewn cynadleddau yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Mae Nataliia yn Ddarlithydd Sesiynol mewn Peirianneg Fecanyddol ac mae ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ennill Cymrodoriaeth Gyswllt gyda’r Academi Addysg Uwch. Mae’n darparu gwahanol fodiwlau ar gyfer rhaglen Gradd Sylfaen Airbus FDEng, BEng (Anrh) a lefelau MSc mewn Peirianneg Awyrenegol/Mecanyddol ac yn goruchwylio prosiectau myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf yn y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Deunyddiau Cyfansawdd Uwch ym Mrychdyn.

Mae’n gweithio fel Swyddog Prosiect ASTUTE (Advanced Sustainable Manufacturing Technologies) ym Mhrifysgol Glyndwr i ddod a mwy o dechnolegau gweithgynhyrchu uwch i’r byd gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae Nataliia wedi gweithio gyda sawl menter gweithgynhyrchu (busnesau bach a chanolig eu maint) ar draws ardaloedd cydgyfeirio yng Nghymru.

Ar ben hyn oll, ers mis Awst 2014 bu’n olygydd cynorthwyol ar gyfnodolyn mynediad-agored “EPOXY”, IDe Gruyter (Yr Almaen), ac yn eistedd ar un o bwyllgorau trefnu lleol y gynhadledd ryngwladol Advanced Materials for Demanding Applications.