Natalie Roch

Bywgraffiad
Enillodd Natalie ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2009 mewn Seicoleg, a’i MSc mewn Ymchwil Seicolegol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2010. Yn ystod 2009 a 2010 gweithiodd Natalie fel Cynorthwyydd Ymchwil yn Labordy’r Ymennydd a Datblygiad Gwybyddol Bangor ym Mhrifysgol Bangor cyn cwblhau ei PhD mewn Seicoleg gyda’r labordy ymchwil hwnnw yn 2015. Teitl Traethawd Estynedig ei PhD oedd ‘Dwyieithrwydd a Gwybyddiaeth: Dull ERP, sef Potensial yr Ymennydd sy’n Gysylltiedig â Digwyddiad’.
Wedi cwblhau ei PhD, ymunodd Natalie â Phrifysgol Glyndŵr fel Technegydd Seicoleg. Fe’i penodwyd wedi hynny yn Ddarlithydd Seicoleg Biolegol yn 2017, ac fe ddechreuodd ar ei rôl fel Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglenni Israddedigion yn yr adran Seicoleg yn 2018. Enillodd Natalie Gymrodoriaeth gyda’r HEA yn 2017, a statws Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn 2018.
Yn ei bywyd y tu hwnt i PGW, mae Natalie yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu; yn caru popeth gan Disney a Marvel; mae hi wrth ei bodd gyda chwaraeon gan gynnwys pêl-droed a reslo; ac yn caru mynd i’r theatr ac i gigiau cerddorol.
Cymwysterau
Seicolegydd Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain (CPsychol)
Cymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch (FHEA)
PhD mewn Seicoleg (Prifysgol Bangor)
MSc Ymchwil Seicolegol (Prifysgol Cymru, Bangor)
BA (Anrh) Seicoleg (Prifysgol Cymru, Bangor)
Ymchwil
Dwyieithrwydd a Gwybyddiaeth
Datblygiad Babanod
Datblygiad Gwybyddol
Chwarae gemau cyfrifiadurol a’r effeithiau ar wybyddiaeth
Addysgu Seicoleg ac Addysgu mewn Addysg Uwch
Cyrsiau
BSc (Anrh) Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)
MSc Seicoleg (Cwrs Trosi)
MRes Seicoleg