Nathan Roberts

Uwch Ddarlithydd Efelychu a Digidoli

Picture of staff member

Yn wreiddiol, daeth Nathan Roberts i’r Brifysgol o sector yn y diwydiant lle bu’n gweithio fel datblygwr system arweiniol yn arbenigo mewn efelychu rhithwir ac amgylcheddau dysgu ar gyfer cwmni enwog. Mae’r cwmni hwn yn datblygu hyfforddiant efelychu arbenigol ar draws sefydliadau’r llywodraeth a chwmnïau rhyngwladol gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf.

 Trwy gydol ei gyfnod yn y diwydiant ac yn y Brifysgol, mae Nathan wedi cael cyfleoedd gwerthfawr i weithio gyda llawer o sefydliadau blaenllaw ledled y wlad i gyflawni prosiectau sydd â’u ffocws ar dechnoleg, a hynny’n cynnwys technolegau ymgolli ac efelychu.

 Mae’r gwaith a’r cysylltiad hwn ar draws y diwydiannau hyn yn aml wedi cyd-fynd â chyfleoedd amhrisiadwy i weld dulliau newydd ac arloesol yn cael eu defnyddio mewn diwydiant a Nathan wedyn wedi sicrhau bod y rhain yn flaenllaw yn ei addysgu a’i ymchwil ei hun.

Mae meysydd diddordeb Nathan ei hun yn canolbwyntio ar dechnoleg ymgolli a defnyddio gemau difrifol (datblygu gemau ar draws gwahanol sectorau diwydiant). Mae ei sgiliau wrth weithio yn y diwydiant ynghyd â’i ddiddordebau ei hun wedi bod yn allweddol i’w ddatblygiad i’r dyfodol. Ar hyn o bryd mae Nathan yn astudio at PhD mewn cydweithrediad â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio amgylcheddau efelychu deallusrwydd artiffisial sy’n llwyr synhwyraidd ac sy’n defnyddio’r dechnoleg hapchwarae ddiweddaraf.

Y tu allan i’r brifysgol, mae Nathan yn beilot dronau ac wrth ei fodd â theclynnau technoleg. Mae hefyd yn dilyn ei deulu wrth fod â diddordeb mewn garddwriaeth ond o safbwynt technoleg; mae’n cymhwyso hydroponeg ac aeroponeg a gweithio ochr yn ochr ag eraill sydd â diddordebau tebyg mewn cynaliadwyedd bwyd a darparu systemau eco hunangynhaliol ar gyfer eu tyfu.