Dr Neil Pickles

Deon Cyswllt - Materion Academaidd

Picture of staff member

Yn dilyn BSc mewn Bioleg, bu i mi gwblhau PhD a oedd yn cynnwys dadansoddiad biocemegol o hydrocoloidau, gan ddefnyddio technegau cemegol a biolegol. Ar ôl cwblhau fy PhD, cefais ysgoloriaeth ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol California, Riverside. Ar ôl dychwelyd i'r DU, ymgymerais â swydd darlithio yn MMU. Bryd hynny cwblheais gymhwyster addysgu ôl-raddedig (PGCAP). Symudais wedyn i Brifysgol Caer, lle symudais ymlaen i fod yn Ddirprwy Bennaeth Adran ac yn Uwch Gymrawd Dysgu Prifysgol Arweiniol. 
Ym mis Mehefin 2019, ymunais â Phrifysgol Wrecsam fel Deon Cyswllt Materion Academaidd yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Roedd gennyf gyfrifoldebau arwain a rheoli ar gyfer y timau Gwyddoniaeth Gymhwysol a Pheirianneg yn y gyfadran. Roedd y portffolio ar faterion academaidd yn cynnwys goruchwylio ansawdd academaidd a bod yn aelod craidd o'r tîm datblygu academaidd (ADT). Ymgymerais â’r rôl fel Deon Cyswllt ar gyfer Datblygiad Academaidd yn y brifysgol ym mis Medi 2022. Mae hon yn rôl traws-brifysgol sy’n darparu arweinyddiaeth strategol mewn perthynas â datblygiad academaidd, ansawdd addysgu, datblygu cwricwlwm (gan gynnwys y Gymraeg), ac ymgysylltu â myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio ein llwybr DPP ar gyfer cymrodoriaeth AU Uwch a gweithredu fel cyswllt sefydliadol. Rwy'n gadeirydd (ac yn is-gadeirydd) nifer o bwyllgorau'r brifysgol. 

Ym mhob un o'm rolau, rwyf wedi darparu addysgu ar lefel israddedig. Rwy’n oruchwyliwr PhD ar hyn o bryd ac rwyf wedi arwain ar ddoethuriaethau llwyddiannus, yn ogystal â gweithredu fel arholwr allanol a mewnol ar gyfer doethuriaethau.
Rwy'n gymrawd uwch AU Uwch (SFHEA) ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel arholwr allanol ym Mhrifysgol Caerwrangon ar gyfer eu PGCLTHE.