Neil Pritchard
Ar ôl graddio yn y gyfraith a mynychu Coleg y Gyfraith fe weithiais i am bedair blynedd fel swyddog cyfreithiol yn y gwasanaeth sifil. A finnau am newid fy ngyrfa, es ymlaen i gwblhau cymhwyster dysgu wedyn am saith mlynedd fel yn ddarlithydd yn y gyfraith, busnes a chymdeithaseg mewn addysg bellach.
Symudais i wedyn i addysg uwch, gan ymuno â Phrifysgol Glyndŵr yn 2001 i arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth a busnes. Yn fwy diweddar cefais fy ngwneud yn brif ddarlithydd gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros y ddarpariaeth i israddedigion yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru.
Bûm hefyd yn ddarlithydd gwadd mewn Cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol Lappeenranta, Y Ffindir.