Nikki Lloyd-Jones

Uwch-ddarlithydd mewn Nyrsio

Picture of staff member

Mae gan Nikki dros ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y maes clinigol ac o weithio fel nyrs arbenigol gydag ystod o gyfrifoldebau ar gyfer cenadaethau llawfeddygol yn Ne America, Sarajevo a Gaza. 

Fel academydd, mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn hunaniaeth a gwneud penderfyniadau ac mae ei PhD yn amlygu problemau gyda dulliau ar gyfer paratoi nyrsys i fod yn ymarferwyr 'atebol’. Ymhlith yr argymhellion oedd cynnig dull arloesol ar gyfer ymchwil ac ymarfer fel dilechdid naratif. Gan ddefnyddio ethnofethodoleg (Garfinkel 2004) fel lens i wneud iaith gyffredin a dibwys bob dydd yn ganolbwynt ar gyfer dehongli, mae ei hastudiaeth yn mynegi gwerth ‘sgwrs' (Gadamer 2004). Y nod yw gwerthuso safonau personol a phroffesiynol a ddefnyddir yn y broses o wneud penderfyniadau bob dydd. 

Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y broses ymchwil fel ffordd o ddatblygu dull disgybledig o greu dadleuon yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n frwd dros ysbrydoli creadigedd, chwilfrydedd a dysgu annibynnol drwy annog meddwl yn feirniadol. Dros y deng mlynedd ddiwethaf mae Nikki wedi bod yn brif ymchwilydd ar ystod o brosiectau a ariennir, o ‘bontio i ddod yn ddinesydd’, ‘ffactorau sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniadau wrth gludo i’r ysbyty’, ‘entrepreneuriaeth fyfyriol, menter rymuso’.

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Critically exploring professional practice in the context of health and society BMS703
Research Dissertation (MRes) BMS707
Dissertation NHS703
Research Methods NHS744D
Leadership and Enterprise in Health and Wellbeing HLT614
Clinical Leadership NHS786
Advancing Leadership and Evidence Based Practice NHS7D5
Research Designs and Methods ANM705