Peter Bolton

Bywgraffiad
Graddiodd Peter gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Hanes o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam cyn cwblhau ei MA ym Mhrifysgol Manceinion. O ganlyniad i’w astudiaethau fe’i henwebwyd ar gyfer gwobr gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac fe gyhoeddwyd ei waith ar urddau Caer mewn cyfnodolyn rhanbarthol o fri.
Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam mae Peter wedi cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol. Y mae hefyd wedi ymrestru ar PhD sydd yn ystyried hunaniaeth drefol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Peter yn dysgu modiwlau ar hanes cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, o’r cyfnod Modern Cynnar hyd ar yr ugeinfed ganrif. Mae hefyd yn rhedeg cwrs y mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ei gynnig mewn Hanes Teulu a Chymunedol ac yn cyfrannu at y cwrs Astudiaethau Celtaidd.
Cymwysterau
BA (Anrh) Hanes (Glyndŵr Wrecsam)
MA Hanes (Manceinion)
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol.
Y mae Peter hefyd wedi ymrestru ar PhD sydd yn ystyried hunaniaeth drefol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cyrsiau
BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol
BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol a Saesneg
BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol ac Ysgrifennu Creadigol