Rhiannon Macpherson

Uwch-ddarlithydd a Thiwtor Derbyniadau Therapi Galwedigaethol

Picture of staff member

Graddiais o Brifysgol Coventry fel therapydd galwedigaethol yn 1994. Drwy’r rhan fwyaf o fy ngyrfa, rwyf wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus o weithio yn UDA a Seland Newydd fel therapydd galwedigaethol ac yn fwy diweddar ro’n i’n gweithio fel Arbenigwr Clinigol o fewn tîm plant a phobl ifanc. Rwyf hefyd wedi gweithio fel clinigwr yn y sector annibynnol.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sicrhau bod therapi galwedigaethol yn canolbwyntio ar y pethau y mae pobl yn eu gwneud (eu swyddi) a datblygais ddiddordeb clinigol arbennig mewn Anhwylder Cydlyniad Datblygiadol a’r defnydd o ddulliau gwybyddol fel ymyrraeth.