Dr Richard Chamberlain

Uwch Ddarlithydd

Picture of staff member

Rwy'n aciwbigydd wedi cymhwyso’n llawn, gan raddio gyda MSc mewn meddygaeth Tsieineaidd o Brifysgol Cymru. Rwyf fi wedi bod yn addysgu meddygaeth Tsieineaidd ac aciwbigo ers dros 20 mlynedd. Cyn hynny, roeddwn i’n ymwneud yn helaeth ag ymchwil feddygol ac yn dal Doethuriaeth o Brifysgol Reading mewn Firoleg Foleciwlaidd, gan wneud ymchwil ar Hepatitis C yn ogystal â HIV.

Ar hyn o bryd rwy'n rhan o’r byrddau achredu ar gyfer dau gorff proffesiynol gwahanol yn ogystal â gwasanaethu fel arholwr allanol. Mae fy niddordebau yn ymwneud â phob agwedd ar iechyd a lles a'r rôl y gall meddygaeth gyflenwol ei chwarae. Mae gen i ddiddordeb yn y byd naturiol, ac rydw i'n cadw gardd fawr a bioamrywiol.