Robert Bolam

Darllenydd mewn Peirianneg Awyrennol

Picture of staff member

Aeth Rob i Ysgol Uwchradd Treffynnon a dechreuodd ei yrfa yn Brentis Peirianneg yn British Aerospace ym Mrychdyn. Astudiodd Beirianneg Awyrennol yn Athrofa Addysg Uwch y Gogledd Ddwyrain (N.E.W.I) sydd bellach wedi dod yn Brifysgol Wrecsam. Ers hynny mae wedi ennill profiad diwydiannol helaeth ym maes Datblygu a Dylunio Awyrennau ac mae wedi gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau awyrennau sifil, milwrol a di-beilot yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn 1992 sefydlodd Altitude Products Ltd., sef cwmni Ymgynghoriaeth Dylunio Awyrofod a Gweithgynhyrchu Offer gan redeg y cwmni tan 2004.

Ym Mhrifysgol Wrecsam, sefydlodd Rob y cwrs MSc ar Dechnoleg Systemau Awyrennau Di-beilot (UAST) a’r labordy Gyriant Trydanol Awyrennau (AEP) sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan OpTic Wrecsam (campws Llanelwy). Ar hyn o bryd mae’n arwain prosiect ymchwil cydweithredol diwydiannol wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, i ddatblygu ffanjet trydanol arloesol, a fwriedir ar gyfer gyriant cyflym i awyrennau.

Mae gan Rob ddiddordeb mawr ym mhob agwedd ar hedfan ac mae’n frwd dros gyfoethogi profiadau’r myfyrwyr wrth iddynt astudio ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae’n rhan o oruchwylio tîm Wrecsam ar gyfer cystadleuaeth flynyddol Her System Awyrennau Di-beilot IMechE ac yn trefnu teithiau maes a digwyddiadau ymarferol hedfan di-beilot ym maes hedfan campws Wrecsam  Llaneurgain.