Picture of staff member

Ar ôl treulio blynyddoedd cynnar fy ngyrfa fel hyfforddwr personol mewn campfa a hyfforddwr atgyfeiriadau gan feddygon teulu,  hyfforddais mewn Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Southampton - gan raddio yn 2016.

Yn ddiweddarach treuliais sawl blwyddyn yn gweithio mewn ymarfer fforensig, yn benodol o fewn Ysbyty Diogelwch Uchel. Cyn ymuno â thîm Wrecsam, derbyniais y rôl gyntaf o’i math fel therapydd galwedigaethol o fewn Gwasanaeth Ymyrraeth Stelcio yn Hampshire – rôl newydd sbon ar gyfer Therapi Galwedigaethol, gan weithio law yn llaw â’r Heddlu, Swyddog Prawf a’r Gwasanaeth Eiriolaeth i Ddioddefwyr.

Rwyf bellach yn gweithio’n rhan-amser fel Uwch Ymarferydd Fforensig o fewn tîm anableddau dysgu cymunedol.

Fy mhrif ddiddordebau tu hwnt i’r gwaith yw pêl-droed (rwy’n gefnogwr brwd o dîm Lerpwl), badminton, CrossFit a threulio amser gyda’n dau gi selsig!

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2022 Stalking and the role of occupational therapy "you're not living life to the full if you're stalking", JOURNAL OF CRIMINAL PSYCHOLOGY. [DOI]
Wheatley, Rachael;Baker, Sam
Peer Reviewed Journal

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2016 BSc Occupational Therapy Prifysgol Southampton
2021 MSc Advanced Occupational Therapy Prifysgol Derby
2022 PGcert Learning and Teaching in Higher Education Prifysgol Glyndwr Wrecsam