Dr Sarah Dubberely

Uwch Ddarlithydd, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Picture of staff member

Dechreuodd Sarah ei gyrfa ym maes Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd yn Fentor Cydlynydd ar gyfer Tîm Troseddwyr Ieuenctid Swydd Caer a’r Ffederasiwn Ieuenctid, gan recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i weithio gyda throseddwyr ifanc ar draws y sir.

Roedd ei MA mewn Troseddeg Gymharol a Chyfiawnder Ieuenctid yn archwilio datblygiad hanesyddol Cyfiawnder Ieuenctid.

Mae ei diddordeb academaidd parhaus ym maes Cyfiawnder Ieuenctid, Mentora, Carchariad a Merched yn y System Cyfiawnder Troseddol.

Ym mis Ebrill 2010, dyfarnwyd PhD i Sarah am draethawd estynedig oedd yn archwilio canfyddiad ac ymglymiad pobl ifanc gyda rhaglen Dug Caeredin, ac, yn achos pobl ifanc mewn lleoliadau diogel, goblygiadau’r ymglymiad yma o ran eu hadsefydlu.

Fel rhan o hyn, ymgysylltodd Sarah yn uniongyrchol gyda 6 sefydliad diogel gwahanol ar draws Lloegr a Chymru. Roedd Sarah yn ddeiliad grant a chyd-arolygydd yng ngwerthusiad ariannu Llywodraeth Cynulliad Cymru o wasanaethau digartrefedd ar gyfer oedolion yn gadael carchar gydag anghenion cymhleth.

Mae Sarah wedi llwyddo i oruchwylio sawl traethawd estynedig PhD hyd at eu cwblhau, o Ddigartrefedd, Trafodion Gofal Plant, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Lleoliadau Gofal Plant.
Mae 2 fyfyriwr i gyflwyno tros y flwyddyn nesaf ar Ymyriadau mewn Cyfiawnder Ieuenctid sy’n Wybodus am Drawma, a Datblygu Proffesiynol Parhaus ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol.
Mae Sarah yn arholwr PhD allanol profiadol, ac wedi archwilio ar draws y DU mewn ystod o bynciau o gyfiawnder ieuenctid, carchariad a digartrefedd.

Mae gan Sarah gysylltiadau cryf gada Chyfiawnder Troseddol, ac yn aelod o’r Rhwydwaith Academaidd a Phwyllgor Cyswllt y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn ogystal â Bwrdd HWB Doeth Cymru.