Shafiul Monir

Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg

Picture of staff member

Yn 2008 enillodd Shafiul EEng (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol Awyrenegol ym Mhrifysgol Wrecsam, Wrecsam, Gogledd Cymru. Ar ôl iddo raddio, roedd am barhau gyda’i ymchwil academaidd mewn dynameg hylif cyfrifiannu (CFD) felly fe ymrestrodd ar MSc mewn Peirianneg Awyrenegol gyda phwyslais ar fodelu CFD. Yn ystod ei astudiaethau meistr, daeth i sylw Dr Vincent Barrioz, uwch-ddarlithydd ymchwil, a’i gydweithwyr Dr Dan Lamb a Dr Giray Kartopu; aelodau o dîm y Ganolfan Ymchwil Ynni Solar (CSER). Roedd angen cymorth CFD arnynt i astudio ffyrdd o gyflawni gwaddodi unffurf o ffilmiau tenau mewn proses Gwaddodi Anwedd Cemegol Metalorganig (MOCVD), yn OpTIC, Llanelwy, Gogledd Cymru. Gan wynebu heriau newydd, ymatebodd Shafiul i’r cyfle i ddefnyddio’i wybodaeth o CFD mewn maes oedd yn newydd iddo, sef peirianneg gemegol, gyda goruchwyliaeth ddefnyddiol gan yr Athro Xiaogang Yang, gan ddysgu ac addasu’n gyflym iawn i amgylchedd newydd CFD Cemegol. Yn ystod ei astudiaethau gradd meistr, cysylltodd tîm Canolfan Ymchwil Ynni Solar (CSER), â Shafiul yn gofyn am ei gymorth CFD i astudio ffyrdd i sicrhau gwaddodi unffurf ar ffilmiau tenau ym mhroses adneuo anwedd cemegol metelorganig (MOCVD), sydd wedi’i lleoli yn OpTIC Glyndŵr. Wrth wynebu her newydd, manteisiodd Shafiul ar y cyfle i gymhwyso ei wybodaeth am CFD, gan ddysgu ac addasu’n gyflym iawn i amgylchedd newydd CFD Cemegol.

Ymunodd Shafiul â thîm CSER yn Ebrill 2011 i wneud ei PhD dan oruchwyliaeth Dr Vincent Barrioz, yr Athro Stuart Irvine a Dr Xiaogang Yang, ar brosiect a ariannwyd gan Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth  (KESS) drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac wedi’i noddi gan Scanwel Ltd. 

Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar waddodi strwythurau cadmium telwrid (CdTe) ar gyfer ffotofoltäig ffilm denau (PV) ar is-haen sydd wedi ei gynhesu sydd yn symud gan ddefnyddio gwaddodiad anwedd cemegol metalorganig drwy wasgedd atmosfferig (AP-MOCVD), fel rhan o brosiect Consortiwm Ymchwil Academaidd Ffotofoltäig Solar (SPARC) Cymru, a ariannir gan y Sefydliad Ymchwil Carbon Is (LCRI) drwy Raglen Cydgyfeirio Rhanbarthol Ewrop.

Graddiodd Shafiul gyda PhD yn 2018 (Ymchwil Carbon Isel) o Brifysgol Cymru, dan nawdd Prifysgol Wrecsam a bellach mae’n Arweinydd Rhaglen ar gyfer y cwrs MSc mewn Peirianneg. Y tu hwnt i’r gwaith mae Shafiul yn mwynhau dringo a mynydda, ac yn aml mae i’w weld yn Eryri. Mae o hefyd yn mwynhau ffotograffiaeth a chynhyrchu ffilmiau antur.   Y tu allan i’r gwaith, mae Shafiul yn mwynhau mynydda, llaclinellau, a ffotograffiaeth.