Dr Sharon Wheeler

Arweinydd Rhaglen: MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles

Picture of staff member

Ymunodd Sharon â Phrifysgol Wrecsam yn 2019 ar ôl gweithio fel Darlithydd mewn Chwaraeon, Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Edge Hill (2017-2019), fel Darlithydd mewn Addysg a Datblygu Chwaraeon ym Mhrifysgol St John Efrog (2014-2017), ac fel Darlithydd Ymweld mewn Cymdeithaseg Chwaraeon ym Mhrifysgol Caer (2011-2014). Enillodd radd PhD ym Mhrifysgol Caer yn 2013, ar ôl iddi hefyd gwblhau MSc mewn Cymdeithaseg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (2010) a BSc mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (2009) yn yr un sefydliad.

Mae gan Sharon ddiddordeb arbennig mewn ‘problemau drwg’ ym maes iechyd y cyhoedd, er enghraifft anghydroddoldebau, camddefnyddio sylweddau a newid hinsawdd. Mae’n tynnu’n bennaf o faes cymdeithaseg a seicoleg i ddeall y meddwl a chysylltiadau dynol, a sut mae’r rhain o gymorth i egluro iechyd, iechyd meddwl a lles.