Simon Stewart

Pennaeth y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd

Picture of staff member

Mae Simon wedi gweithio mewn ystod o asiantaethau yn y sector preifat, statudol a gwirfoddol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae ganddo brofiad o weithio’n rhyngwladol yn Ghana ac Israel yn ystod y 23 mlynedd diwethaf.

Mae ei ddiddordebau academaidd yn cynnwys ymgysylltedd ac eiriolaeth myfyrwyr, dysgu a chefnogi gan dechnoleg, dysgu rhyngbroffesiynol, datblygiad proffesiynol, newid arweinyddiaeth ac arweinyddiaeth gwasanaethu.

Mae gan Simon gymhwyster gwaith ieuenctid proffesiynol JNC, ac mae’n aelod o ETS Cymru. Mae ei ddiddordebau ymchwil wedi canolbwyntio ar ddysgu amlddiwylliannol, effaith gwaith ieuenctid rhyngwladol ar bobl ifanc, gwaith ieuenctid gwledig, gwaith ieuenctid digidol a menter gymdeithasol, a gwerthoedd yn seiliedig ar arwain.

Fel Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, ac Ysgol Fusnes Gogledd Cymru, mae gan Simon gyfrifoldeb dros bortffolio eang ac amrywiol o bynciau, sy’n parhau i dyfu a datblygu, ac yn cael eu llywio gan benderfynoldeb i ragori ar gyfer y myfyrwyr rydym yn eu gwasanaethu.

Mae Simon yn Uwch Gymrawd Addysg Uwch, ac yn aelod o’r bwrdd gwaith ieuenctid dros dro i Gymru, ac wedi cyfrannu at Mae’n Bryd Cyflawni Dros Bobl Ifanc yng Nghymru, 2021.

Mae Simon wedi addysgu ar raglenni Israddedig ac Ôl-raddedig Ieuenctid a Gwaith Cymunedol a addysgir, ac ar raglenni datblygu staff academaidd. Ymhlith y pynciau roedd Deall eich Hunain ac Eraill; Datblygu Dysgu’n Seiliedig ar Fater; Rheoli Arfer yn seiliedig ar Dystiolaeth; Sgiliau Creadigol ar Gyfer Ymgysylltu, Safbwyntiau Rhyngwladol a Rheoli ac Arwain.

Yn ddiweddar, cynrychiolodd Simon Lywodraeth Cymru yn y 3ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd yn Bonn, Rhagfyr 2020.