Mr Steffan Owens

Bywgraffiad
Mae Steffan wedi bod yn gerddor proffesiynol ers ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi gweithio fel drymiwr stiwdio, perfformiwr byw, ac athro. Mae perfformiadau a recordiadau’r gorffennol wedi cynnwys Gŵyl Glastonbury, NXNE, SXSW, Wythnos Cerddoriaeth Canada, Stadiwm y Mileniwm Caerdydd, Stadiwm Murrayfield BT, Stadiwm Etihad, Stiwdios Maida Vale, Stiwdios Real World, Stiwdios Abbey Road, yn ogystal â sesiynau ar gyfer BBC 6 Music, BBC Radio Wales, BBC 1 a Dave Channel. Steffan yw’r drymiwr yn y band, Seazoo, a enwebwyd am Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018.
Fel darlithydd yn Nhechnoleg y Cyfryngau Creadigol, mae Steffan wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr adran y Cyfryngau Creadigol yn cael y sgiliau technegol a’r profiad yn y diwydiant i’w paratoi at yrfaoedd proffesiynol. Mae Steffan yn gallu rhoi’r arweiniad hwn i fyfyrwyr drwy ei brofiad blaenorol yn y diwydiant a’i waith ymchwil parhaus ar ei PhD.
Cymwysterau
BSc (Anrh) dosbarth 1af Technoleg Cerddoriaeth
Ymchwil
• Cadw Amser Cerddorol
• Perfformiad Stiwdio
• Dylunio Sain ar gyfer Ffilm
Cyrsiau
BSc Technoleg Sain a Cherddoriaeth
BSc (Anrh) Cynhyrchu a Thechnoleg Teledu
BSc Sain a Fideo Proffesiynol
BA Cynhyrchu’r Cyfryngau
Cyhoeddiadau
Timekeeping " submitted for ‘Audio Mostly 2018' (Glyndwr University, Wrexham) – ACM Digital Library;
Album. Seazoo – Trunks. Self-released. 2018.
Chapter contribution to ‘Art, Design, and Technology: Collaboration and Implementation’ (Springer Press, 2017);
Conference Paper "More Cowbell: Measuring Beat Consistency With Respect To Tempo And Metronome Variations" submitted for ‘Audio Mostly 2017' (Queen Mary University, London) – ACM Digital Library;
Too Pure Singles Club. Seazoo - Teeth/Skulls 7" Vinyl Single. Pure 331's. July 2016;