Athro Stephen Hughes

Bywgraffiad
Rwy'n cael fy nghyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel Ymgynghorydd Gwyddoniaeth Biofeddygol a Chyfarwyddwr Uned Academaidd Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol y Maelor (MAUMSS). MAUMSS yw’r prif gyfrwng ar gyfer fy ngwaith ymchwil presennol, sy’n ymwneud yn bennaf ag ymchwilio i gleifion ag anhwylderau anfalaen neu falaen yr arennau, y bledren a’r brostad.
Rwy'n aelod Cymrawd o'r Sefydliad Gwyddoniaeth Fiofeddygol (IBMS), Gwyddonydd Siartredig (CSci) cysylltiedig â'r Cyngor Gwyddoniaeth. Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi gweithio fel Gwyddonydd Biofeddygol cofrestredig (Haematoleg gydag Ymarfer Darllwyso Ysbyty) i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ar gyfer y GIG, ac fel Uwch Wyddonydd Biofeddygaeth a Rheolwr Patholeg yng Nghanolfan Feddygol Gogledd Cymru.
Ymhlith fy ngweithgareddau allanol amrywiol, rwy'n arholwr portffolio arbenigol i IBMS. Mae'r swydd yn cynnwys asesu addasrwydd ymarferwyr sydd mewn ysbytai i ymarfer ar lefel Rheoli neu Uwch Wyddonydd. Rwy'n aelod o banel achredu academaidd IBMS ar lefel genedlaethol. Mae'r rôl yn fy nghaniatáu i adnabod newid cwricwlwm i raglenni, a'i weithredu, mewn Sefydliadau Addysg Uwch (HEI) eraill. Rwyf hefyd yn Ymgynghorydd Gwyddonol i Ymchwilwyr Wroleg Prydeinig mewn Hyfforddiant Llawfeddygol (BURST).
Cefais fy ngwahodd i fod yn arholwr allanol i Brifysgol Keele (MSc Gwyddorau'r Gwaed), Prifysgol Nottingham Trent a Phrifysgol Wolverhampton. Rwyf hefyd yn aelod Cymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA).
Mae gennyf brofiad helaeth mewn labordai ym maes ymchwil biofeddygol ac addysgu, ac yn meddu ar ystod o dechnegau heamotoleg-imiwnadd a biocemeg.
Y tu allan i'r gwaith rwy'n mwynhau treulio amser gyda'm teulu a ffrindiau, a chwarae golff.
Cymwysterau
Cymwysterau: BSc (Anrh), PgCert, MPhil, PhD
Proffesiynol: FIBMS, CSci, FRSB, FHEA
Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil wedi'u rhannu i'r meysydd canlynol ar hyn o bryd:
Clinigol
• Cerrig yr arennau
• Anhwylder diniwed neu adwythig ar y bledren
• Anhwylder diniwed neu adwythig ar y prostad
• Mesurau canlyniadau clinigol (e.e. niwed penodol, haint a gwaedu yn yr arennau) a'u perthynas â bioddangosyddion
Gwyddonol
• Bioleg Celloedd Gwaed Gwyn
• Endotheliwm fasgwlaidd
• Llid
• Metastasis a dychweliad cancr
• Cytocinau a moleciwlau adlyniad
• Bioddangosyddion a diagnosteg newydd
Cydweithwyr Allweddol
Yr Athro Steve Conlan (Prifysgol Abertawe)
Yr Athro Andrew Tee (Prifysgol Caerdydd)
Yr Athro Luis Mur (Prifysgol Aberystwyth)
Yr Athro Leandro Pecchia (Prifysgol Warwig)
Cyrsiau
Cyrsiau
Gwyddor Biofeddygol
MRes Ymchwil Gwyddor Biofeddygol Cymhwysol
MRes Ymchwil Clinigol Cymhwysol
Modiwlau
Gwyddoniaeth
Meddygaeth Glinigol: Patholeg clefydau
Dulliau Ymchwil
Traethawd Hir
Cyhoeddiadau
Hughes, S.F., Jones, N., Thomas-Wright, S.J. et al. (2020). Shock wave lithotripsy, for the treatment of kidney stones, results in changes to routine blood tests and novel biomarkers: a prospective clinical pilot-study. Eur J Med Res 25, 18. https://doi.org/10.1186/s40001-020-00417-2.
Castaldo R., Hughes S.F., et al. (2020) Investigating the Use of Wearables for Monitoring Circadian Rhythms: A Feasibility Study. In: Lin KP., Magjarevic R., de Carvalho P. (eds) Future Trends in Biomedical and Health Informatics and Cybersecurity in Medical Devices. ICBHI 2019. IFMBE Proceedings, vol 74. Springer, Cham. https://doi.org/10.1007/978-3-030-30636-6_38.
Dobbin, N., Bloyce, D., Hughes, S.F. et al. (2020). Effects of a 4 week touch rugby and self-paced interval running intervention on health markers in active young men. Sport Sci Health. https://doi.org/10.1007/s11332-020-00636-4.
Bell, C., Moore, S.L., Gill, A., Hughes, S.F. et al. (2019). Safety and efficacy of Holmium laser enucleation of the prostate (HoLEP) in patients with previous transperineal biopsy (TPB): outcomes from a dual-centre case-control study. BMC Urol 19, 97. https://doi.org/10.1186/s12894-019-0523-z.
Moyes, A. J., Lamb, R. M., Ella-Tongwiis, P., Pushkaran, A., Ahmed, I., Shergill, I., & Hughes, S. F. (2017). A pilot study evaluating changes to haematological and biochemical tests after Flexible Ureterorenoscopy for the treatment of kidney stones. PloS one, 12(7), e0179599. https://doi.org/10.1371/journal.pone.0179599.
Agbalalah T, Hughes SF, Freeborn EJ, Mushtaq S. (2017). Impact of vitamin D supplementation on endothelial and inflammatory markers in adults: A systematic review. J Steroid Biochem Mol Biol.;173:292-300. https://doi:10.1016/j.jsbmb.2017.01.015