Ms Susan Allen

Bywgraffiad
Mae Sue yn teimlo’n falch iawn o weithio mewn proffesiwn sy’n newid bywydau. Mae wedi cymhwyso mewn Therapi Galwedigaethol o Ysgol Therapi Galwedigaethol Cymru yng Nghaerdydd yn 1987. Mae wedi gweithio’n glinigol gyda chleientiaid gyda heriau iechyd corfforol ac iechyd meddwl mewn lleoliadau acíwt a chymunedol yn y DU, UDA a Singapore. Mae Sue wedi arbenigo mewn cefnogi plant ag anableddau datblygiadol (gan gynnwys anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth) a’u teuluoedd. Mae ganddi sgiliau clinigol uwch mewn ymagweddau synhwyrol, echddygol, gwybyddol, perthnasoedd a hyfforddi.
Mae Sue wedi cyfrannu at therapi galwedigaethol israddedig ers 15 mlynedd fel isadran ychwanegol ac mae’n falch iawn o fod yn rhan o dîm Glyndŵr Wrecsam. Arweiniodd Sue y tîm Rhwydwaith Integreiddio Synhwyrol wnaeth negodi a datblygu’r radd Feistr mewn Gwella Ymarfer. Ar lefel ôl-raddedig, mae Sue yn gweithio fel ymgynghorydd ar gyfer datblygiad modiwlau clinigol ar-lein ac yn parhau i addysgu a mentora sgiliau clinigol uwch.
Mae ei hymchwil cyhoeddedig a chyflwynedig yn cynnwys deilliannau ymyrraeth i blant ag anawsterau echddygol, llwybrau gofal i blant ag anhwylderau cydlyniad datblygiadol, amlder digwyddiadau a chyd-forbidrwydd anawsterau synhwyrol ac echddygol a ffactorau sy’n effeithio ar straen mamol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar PhD mewn Seicoleg Ddatblygiadol gyda Phrifysgol Reading, yn archwilio effaith anawsterau integreiddio synhwyrol ar fywyd teuluol a strategaethau i wella cyfranogiad.
Ar wahân i therapi galwedigaethol, mae Sue wrth ei bodd yn treulio amser gyda ffrindiau a theulu, a garddio, canu ac Ioga (AYT200).
Cymwysterau
2014 M.Sc. Gwella Ymarfer Therapi Galwedigaethol (Prifysgol Ulster)
2013 Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Rhwydwaith Integreiddio Synhwyrol
2005 Ymarferydd Integreiddio Synhwyrol Uwch
1996 Therapydd Galwedigaethol Cofrestredig (Minnesota)
1992 B.Sc. (Anrh.) Astudiaethau Iechyd (Glasgow)
1987 Dip.C.O.T (Caerdydd)
Ymchwil
Rhwystrau a hwyluswyr cyfranogiad mewn bywyd bob dydd i deuluoedd plant ag anawsterau integreiddio synhwyrol. Agweddau at gefnogi rhieni gan gynnwys hyfforddiant.
Cyrsiau
BSc Therapi Galwedigaethol
Cyhoeddiadau
Allen S a Casey J (2017) Developmental Coordination Disorders and Sensory Processing and Integration: incidence, associations and comorbidities. British Journal of Occupational Therapy. 80(9), 549-547.
Allen S a Knott F. (2017) How do children’s challenges to function and participation impact Maternal Stress? New Zealand Journal of Occupational Therapy 63(2),29-37.
Allen S (2016) Can I tell you about sensory processing difficulties? Jessica Kingsley Publisher. Llundain.
Ffilmiau byr synhwyrol ar YouTube https://www.youtube.com/channel/UCWKKMgbIffBKOmdxJYrFTRA
Manylion pellach:
https://www.researchgate.net/profile/Susan_Allen6
ORCID: https://orcid.org/0000-0002-8634-7632