Dr Susan Liggett

Darllenwr mewn Celf a Dylunio

Picture of staff member

Astudiodd Susan Liggett ar gyfer BA (Anrh) Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Nottingham Trent a gradd MA (Diploma Ôl-radd) Paentio yn Ysgolion yr Academi Gelf Frenhinol, Llundain. Mae ganddi hefyd PhD o Brifysgol Cymru drwy ei hymchwiliad i waith 5 arlunydd cyfoes a’u perthynas â safleoedd penodol.

Dechreuodd Susan ar ei gyrfa yn y byd academaidd dros ugain mlynedd yn ôl a hynny ar ôl gweithio fel artist, yn arddangos, yn paentio ac yn gweithio mewn stiwdio yn Llundain. Mae hi wedi bod mewn swyddi amrywiol yn addysgu israddedigion a myfyrwyr gradd Meistr mewn celf gain ac ymarfer celf gyfoes. Yn 2016 daeth yn Ddarllenydd mewn Celfyddyd Gain a heddiw mae ei phrif addysgu yn cynnwys goruchwylio myfyrwyr PhD mewn celf a dylunio.

Mae Susan yn parhau i baentio, arddangos a churadu arddangosfeydd, yn ogystal ag ysgrifennu papurau ar gyfer cynadleddau a chyhoeddiadau sy’n gysylltiedig ag ymchwil celf a dylunio. Mae hi’n aelod cyswllt o grŵp SUITE STUDIO Salford, Manceinion, ac mae hefyd yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig (Royal Cambrian Academy).

http://www.susanliggett.com

https://www.researchgate.net/profile/Susan_Liggett

Pan nad yw Susan yn paentio neu’n ymweld ag orielau celf, mae’n chwarae’r bas dwbl mewn cerddorfa gymunedol.