Dr Tamsin Young

Arweinydd Rhaglen Gwyddor a Rheoli Lles Ceffylau

Wrexham University

Mae Tamsin yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer y radd Bsc (Anrh) Gwyddor a Rheoli Lles Ceffylau, gan weithio o gampws Llaneurgain.

Cwblhaodd ei PhD drwy archwilio mesurau straen seicolegol ac ymddygiadol mewn ceffylau ym Mhrifysgol Lerpwl (ar gampws Pryfysol Caer) yn 2011. Edrychodd ar effaith ymarfer, hwsmonaeth arferol a lletya ar newidiadau mewn cortisol, amrywiad mewn cyfradd y galon, ac ymddygiad a fesurwyd mewn ceffylau hamdden. Fe wnaeth hi hefyd gasglu a phennu sgôr straen ymddygiadol i’w ddefnyddio gyda cheffylau i alluogi perchnogion i adnabod newidiadau yn lefel straen eu ceffylau.

Ers cwblhau ei PhD mae Tamsin wedi gweithio gydag israddedigion amrywiol ar eu prosiectau ymchwil, ac mae hi hefyd yn rhan o brosiect amlddisgyblaethol sydd yn archwilio’r berthynas rhwng bodau dynol a cheffylau gyda’r Athro Lynda Birke ym Mhrifysgol Caer a Dr Joanna Hockenhull ym Mhrifysgol Bryste.

Mae ganddi gymhwyster Hyfforddwr Cynorthwyol a Rheolwr Stablau Canolradd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.