Tegan Brierley-Sollis

Cynorthwyydd Dysgu Graddedig – Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Picture of staff member

Enillais radd BA (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn 2018. Ar hyn o bryd rwy’n dilyn Gradd Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Wrecsam gan ganolbwyntio ar brofiadau plentyndod niweidiol ac arferion sy’n seiliedig ar ddeall trawma. Trwy gydol fy ngradd cefais fwynhau amrywiaeth o leoliadau gwaith gwirfoddol. Roedd hyn yn cynnwys gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid fel Aelod o’r Panel Gorchymyn Atgyfeirio a Chynrychiolydd Cymunedol y Ganolfan. Ymhellach, gwirfoddolais gydag Ymddiriedolaeth St Giles; gwasanaeth sy’n cynnig cymorth adsefydlu yn CEM Berwyn.

Sefydlais Gymdeithas Troseddeg Prifysgol Wrecsam yn 2018 a bûm yn llywydd arni am 18 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, enillodd y gymdeithas wobr Cymdeithas Newydd Orau 2017 a Chymdeithas Orau 2018. Roeddwn yn danbaid dros roi llais i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr a bûm yn cynrychioli myfyrwyr ar lefel cwrs, cyfadran a phrifysgol tra’r oeddwn yn fyfyriwr israddedig. Roedd hyn yn golygu fy mod yn gweithio’n agos gydag undeb y myfyrwyr ac roeddwn yn aelod o gyngor y myfyrwyr.

Cyn imi ddechrau ar fy Ngradd Ymchwil Ôl-raddedig a’m swydd fel Cynorthwyydd Dysgu Graddedig, gweithiais i’r cyngor gwirfoddol lleol, a’m gwaith oedd hyrwyddo gwirfoddoli ac annog dinasyddiaeth weithgar ymhlith pobl ifanc, rheoli cynllun grantiau dan arweiniad pobl ifanc a chynnig cymorth i sefydliadau’r trydydd sector.