Mrs Teresa Davies
Dechreuodd Teresa weithio gyda’r GIG fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn 2001. Cymhwysodd fel nyrs gofrestredig yn 2006, gan weithio ar gyfer BIPBC mewn sawl swydd wahanol; nyrs staff yn YGC, nyrs gymunedol, nyrs ardal, nyrs cydgysylltu rhyddhau o’r Ysbyty, hwylusydd gofal diwedd oes Macmillan ac yn olaf fel nyrs Arbenigwr Diabetes Band 7 mewn gofal sylfaenol. Dechreuodd weithio ym Mhrifysgol Glyndŵr yn 2018.
Ar y penwythnosau mae Teresa yn hoff o fod allan yn yr awyr agored, yn cerdded yn y mynyddoedd gyda’i chi Labrador, Bailey, ac mae’n redwraig frwd (er nid mor gyflym) ac wedi cwblhau 3 marathon. I ymlacio mae’n hoff o ioga, darllen a gwylio Columbo gyda phaned o goffi cryf.