Tom King

Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon

Picture of staff member

Mae Tom yn ddarlithydd ar y rhaglen BSc Gwyddor Chwaraeon, Iechyd a Pherfformiad, BSc Hyfforddi Pêl-droed a'r Arbenigwr Perfformiad a BSc Hyfforddi Chwaraeon ar gyfer Cyfranogiad a Datblygu Perfformiad.  Ei brif faes arbenigedd yw Seicoleg Chwaraeon, Iechyd a Pherfformiad.

Ar ôl cwblhau gradd BSc (Anrhydedd) mewn Seicoleg Chwaraeon, aeth Tom ymlaen i gwblhau gradd MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn 2011, ym Mhrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn.

Yn dilyn cyfnod mewn addysg, aeth Tom ymlaen i gefnogi clybiau pêl-droed lleol gan gynnwys Clwb Pêl-droed Tref Amwythig a Chlwb Pêl-droed y Drenewydd, yn ogystal â chynorthwyo academïau golff lleol a oedd eisiau arweiniad seicolegol.

Yn 2016, cofrestrodd Tom ar gwrs i ennill Cymhwyster mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff a sicrhau statws siartredig fel Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Ers 2016, mae Tom wedi bod yn gweithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerlŷr, gan chwarae rôl hanfodol mewn darparu darpariaeth seicolegol i holl chwaraewyr yr academi. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Tom wedi darparu cefnogaeth i sgwadiau'r Cam Datblygiad Proffesiynol ac Uwch Gynghrair 2. Mae Tom hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd yn y maes Golff Proffesiynol, ochr yn ochr â Winning Golf Mind, gan ddarparu ystod o wasanaethau seicolegol i Golffwyr y Daith Ewropeaidd ac amaturiaid élite.

Ymunodd Tom â'r tîm Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2018, ac mae'n gobeithio trosglwyddo ei brofiad mewn seicoleg chwaraeon cymhwysol a pherfformiad i raddedigion sydd eisiau dilyn gyrfa mewn chwaraeon, ymarfer corff a gweithgarwch corfforol.