Tracy Simpson

Bywgraffiad
Artist, ymchwilydd a gweithiwr curadurol proffesiynol. Mae’n Gyd-gyfarwyddwr Addo Creative a sefydlwyd yn 2011, sef sefydliad celf weledol dielw sy’n gweithio gydag artistiaid, cymunedau, partneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’n curadu ac yn rheoli prosiectau celf sydd wedi’u lleoli mewn mannau allweddol yn yr amgylchfyd cyhoeddus er mwyn gwella ecoleg ddiwylliannol ehangach lleoedd, cymunedau a safleoedd gan gynnwys: gwaith parhaol/dros dro, preswyliadau artistiaid, strategaethau, codi arian, gwerthuso, ymchwil, digwyddiadau ac arddangosfeydd.
Cyn hynny gweithiai Tracy i Safle, sef yr asiantaeth strategol ar gyfer celf gyhoeddus yng Nghymru, fel Uwch Reolwr Prosiect (2008-2010). Bu’n Gyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Wrecsam am wyth mlynedd (2000-2008).
Ar hyn o bryd mae hi’n ymchwilio tuag at ei PhD (i’w gwblhau 2023) ar sut mae artistiaid, sefydliadau celfyddydol a chymunedau yn cydweithio. Mae’r ymchwil yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Glyndŵr a Thŷ Pawb.
Mae wedi bod yn Ymddiriedolwr ac yn aelod o Fwrdd Oriel Davies ers 2017.
Cymwysterau
- Teitl ei PhD yw: ‘Rôl y Celfyddydau Gweledol wrth Greu Gofod Cymdeithasol: sut mae Artistiaid, Sefydliadau Celfyddydol a Chymunedau yn Cydweithio.’ I’w gwblhau 2023.
- BA Anrh, Celfyddyd Gain, Prifysgol De Montfort, Caerlŷr/Leicester (1994)
- ILM 5 Coetsio a Mentora Effeithiol, Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (2021)
- ILM 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (2017)
- Gweithgareddau Allanol:
- Cynghorydd Cenedlaethol – Cyngor Celfyddydau Cymru (2015-18)
Ymchwil
Mae ymchwil Tracy wedi datblygu o’i gyrfa ugain mlynedd a mwy yn y celfyddydau gweledol, a nod yr ymchwil hwnnw yw dangos y tebygrwydd rhwng curadu, datblygu cynulleidfaoedd, cymuned ac ymdeimlad o le sy’n deillio o gyd-ddatblygu a chydweithio ynghylch materion rhaglennu a chreu celf weledol mewn mannau celfyddydol a rhai nad ydynt yn ymwneud â’r celfyddydau.
Mae ei PhD, sydd i’w gwblhau yn 2023, yn gydweithredu rhwng Prifysgol Glyndŵr a Thŷ Pawb ac mae’n canolbwyntio ar gadernid creadigol sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac effaith y pandemig ar fethodoleg rhaglennu. Bydd datblygu Lle Celf Ddefnyddiol yn Nhŷ Pawb yn ei galluogi i gasglu gwybodaeth am gydweithio creadigol.
Cyrsiau
- MA Cynhyrchu Creadigol a Churadu
- MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celf
- MA Ymarfer Dylunio Rhyngddisgyblaethol
- MA Ymarfer Celf
- MA Ymarfer Dylunio
Cyhoeddiadau
Navigations-Art as Research’ publication to accompany the exhibition of the same name at Oriel Davies, Newtown – Foreword & Editor (2017)
‘Rural Works’ publication regarding the nature of artists’ practice/residencies in a regeneration context – Foreword & Editor (2014)
Conference Presentations, Papers & Workshops:
Paper: Environmental Evidence 2020 – Resilience in the Welsh Uplands (2020)
Seminar: ‘Art As Research’ Oriel Davies, Newtown (2017)
Paper: Engage International Conference (2016)
Paper: Artworks Cymru, Artist’s Toolkit (2015)
Seminar: ‘What’s Art Got to Do with It? Demystifying Public Procurement for Artists’ Swansea University (2014)
Paper: ‘Wales Art Programme’ World Canal Conference, Milan, Italy (2014)
Paper: IXIA ‘Public Art and Regeneration’ Seminar, Bangor University (2013)
Paper: ‘Unlocking Funding for Makers’ Seminar, Oriel Myrddin, Carmarthen