Vicky Davies

Darlithydd Mewn Maeth ac Iechyd

Wrexham University

Ar ôl cwblhau fy hyfforddiant clinigol academaidd, dechreuais fy ngyrfa fel dietegydd cofrestredig yn 2007. Roedd fy swyddi cynnar mewn lleoliadau gofal acíwt, gan ddarparu cymorth maeth i gleifion preswyl gydag ystod o gyflyrau clinigol gan gynnwys afiechyd ar yr ysgyfaint, afiechyd cardiofasgwlaidd, oncoleg, a llawdriniaeth gastroenteroleg a gastrogoluddol. Yn ystod y cyfnod yma, roeddwn yn gweithio tuag at fy nghymhwyster Meistr mewn Maeth a Deieteg gan gwblhau fy astudiaethau yn 2011.

Ers 2015 rydw i wedi gweithio fel Arweinydd Clinigol a Phroffesiynol dros Faeth a Deieteg yng Nghanolfan Walton, Lerpwl, gan arbenigo mewn Niwrowyddoniaeth a gofal critigol. Rydw i’n gyfrifol am reolaeth weithredol y gwasanaeth deieteg sydd yn darparu cymorth dietegol i gleifion preswyl gyda chyflyrau niwrolegol. Fi hefyd yw’r hyfforddwr arweiniol ar gyfer lleoliadau clinigol deieteg, gan weithio mewn partneriaeth agos gyda Phrifysgol Caer i ddarparu’r hyfforddiant clinigol academaidd ar gyfer myfyrwyr deietegwyr israddedig ac ôl-raddedig.

O fewn fy rôl arbenigol glinigol mewn gofal niwroglinigol, cefais fy mhenodi yn Swyddog Datblygu ar gyfer pwyllgor Grŵp Arbenigwyr Gofal Critigol y Sefydliad Deietig Prydeinig. Trwy hyn cefais gyfle i gydweithio gyda dietegwyr clinigol arbenigol hŷn i arwain ar bolisïau a datblygiadau cenedlaethol ar ran sefydliad dietegwyr y DU. Roedd y rôl hefyd yn gyfle i gyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol a fforymau eraill.

Am i’m swydd yng Nghanolfan Walton newid i fod yn un ran-amser yn 2017, cymerais y cyfle i archwilio fy niddordeb mewn addysg drwy’r swydd ran-amser gyfredol sydd gen i ym Mhrifysgol Wrecsam, a ddechreuais yn Rhagfyr 2017. Yn y rôl yma rydw i’n cefnogi datblygiad modiwlau maeth newydd yn Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. 

Mae fy niddordebau allgyrsiol yn cyd-fynd â’m gwaith, yn benodol o ran iechyd a ffitrwydd. Rydw i’n mwynhau nifer o weithgareddau awyr agored. Rydw i hefyd yn mwynhau bwyd a diod, yn mwynhau coginio, pobi a datblygu sgiliau newydd yn y gegin. Y tu hwnt i oriau gwaith, rydw i’n ymgynghorydd deietig, gan gyflawni asesiadau ar gyfer cleientiaid preifat i gwrdd â’r golau iechyd a pherfformiad ac yn datblygu adnoddau a thechnolegau newydd.