Dr Vivienne Dacre

Arweinydd Rhaglen: Gofal Plant Therapiwtig

Wrexham University

Mae Vivienne yn brif ddarlithydd ym Mhrifysgol Wrecsam (PGW), lle hi yw arweinydd y rhaglen FdA/BA mewn Gofal Plant Therapiwtig. Hi yw trefnydd y gynhadledd Gofal Plant Therapiwtig flynyddol a gynhelir bob blwyddyn mewn partneriaeth â'r Consortiwm ar gyfer Cymunedau Therapiwtig.

Yn flaenorol, bu Vivienne yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cymwys, ac felly mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda phlant a theuluoedd. Cyn ymuno â PGW, roedd yn uwch reolwr yn y sector gofal preifat gyda chyfrifoldeb arweiniol dros wasanaethau therapiwtig.

Am nifer o flynyddoedd, bu'n gweithio i dîm gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd awdurdod lleol. Fel gweithiwr cymdeithasol, mae hi wedi rheoli canolfan i deuluoedd awdurdod lleol a chartrefi preswyl i blant. Mae ei phrofiad felly wedi cwmpasu ymchwilio i gam-drin plant a gwaith therapiwtig gyda phlant ac oedolion sydd â hanes o drawma.