campus reception entrance

Sut i ddod o hyd i ni

Mae campysau Prifysgol Wrecsam wedi’u lleoli ledled y Gogledd-ddwyrain yn Wrecsam, Llaneurgain a Llanelwy. Mae pob un yn rhwydd eu cyrraedd o’r M53/A55 ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Campws Wrecsam

Mae ein prif gampws, sef Plas Coch, wedi’i leoli ar gyrion canol tref Wrecsam ar Ffordd yr Wyddgrug (cod post LL11 2AW).

Mae’n rhwydd ein cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda gorsaf fysiau Wrecsam 10 munud i ffwrdd ar droed. Mae llwybrau rhai bysiau yn stopio’n union y tu allan i’r campws. Yr orsaf reilffordd agosaf yw Wrecsam Cyffredinol sydd ychydig funudau ar droed i’r prif gampws.

Mae digonedd o lefydd parcio ceir ar y safle.

Mae’r Ysgol Gelf wedi’i lleoli ar Stryt y Rhaglaw (cod post LL11 1PF), sydd ond ychydig funudau o gerdded o gampws Plas Coch a gorsafoedd trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae ein Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol o’r radd flaenaf ym Mharc y Glowyr i’w chanfod ychydig tu allan canol trefn Wrecsam yng Ngresffordd (LL12 8PW).

Lawrlwythwch map campws.

Campws Llaneurgain

Mae campws Llaneurgain (cod post CH7 6AA) wedi’i leoli yng nghefn gwlad Sir y Fflint a gellir ei gyrraedd drwy’r A55/B5126.

Mae digonedd o lefydd parcio ceir ar y safle.

Yr orsaf drenau agosaf i’n campws yn Llaneurgain yw’r Fflint, sydd tua 10 munud i ffwrdd mewn car.

Campws Llanelwy

Gadewch yr A55 ar gyffordd 26 a mynd am Barc Busnes Llanelwy. Ar y gylchfan gyntaf, cymerwch y trydydd allanfa. Mae Prifysgol Wrecsam – Llanelwy ar eich chwith (Cod post LL17 0JD).

Mae digonedd o lefydd parcio ceir ar y safle.

Yr orsaf drenau agosaf yw’r Rhyl, sydd tua 10 munud i ffwrdd. O’r fan hon mae trenau cyflym rheolaidd i Euston Llundain sydd ond yn cymryd dwy awr a hanner.