Hanfodion Cofrestru Ar-lein

Byddem yn gyrru e-bost yn eich gwahodd i gofrestru ar-lein, mae'n rhaid i chi gwblhau hwn cyn gynted â phosib, os oes gennych unrhyw broblem yn cwblhau'r broses, cysylltwch â studentadministration@glyndwr.ac.uk

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar eich cwrs er mwyn cofrestru’n ffurfiol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Y tro cyntaf i chi gofrestru, rhaid i chi hefyd uwchlwytho copi o'ch ID llun i gadarnhau pwy ydych chi os yw eich rhaglen astudio yn Wrecsam, Llaneurgain neu Llanelwy (mae gan safleoedd eraill eu trefniadau eu hunain). ID llun derbyniol yw: 

  • Trwydded gyrrwr 
  • Pasbort 
  • Cerdyn adnabod 
  • Tystysgrif geni ac ID Llun o ryw fath 

 

Cardiau Myfyrwyr 

Ar ôl i chi gofrestru ar-lein, byddwch yn gallu casglu eich cerdyn myfyriwr o Ganolfan Edward Llwyd (adeilad y Llyfrgell). Dim ond ar ôl i chi gofrestru ar-lein y byddwch yn gallu casglu eich cerdyn myfyriwr. Bydd angen i chi ddod â'ch ID Llun i gasglu'ch cerdyn myfyriwr. Bydd gennych slot penodol yn ystod yr Wythnos Croeso i gasglu eich cerdyn myfyriwr, a fydd ar eich amserlen. 

Cofrestru i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Bydd myfyrwyr gyda theitheb Haen 4, caniatâd amhenodol i aros / teitheb gwladychiad neu sy'n deilwng i reolaeth mewnfudiad (e.e. priod, dibynnol, ffoadur, astudio tymor byr, haen 2) yn derbyn cyfathrebiad e-bost o'r Tîm Cydymffurfio Mewnfudiad. Bydd y cyfathrebiad yma yn eich gwahodd i ran cofrestru benodol i fyfyrwyr Rhyngwladol, os ydych yn derbyn y gwahoddiad yma sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a roddir os gwelwch yn dda.

Bydd angen i chi ddod a'r dogfennau canlynol gyda chi.
• Teitheb gyfredol
• Pasbort