Cwestiynau Cyffredinol am Gofrestru

Gallwch gofrestru/ailgofrestru dim ond ar ôl derbyn llythyr yn eich gwahodd i wneud hyn. Byddwch yn gwybod eich bod wedi cwblhau’r broses gofrestru ar-lein ar ôl derbyn e-bost cadarnhaol. Os ydych yn dal i fod yn ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn ymwneud â chofrestru ar ôl darllen y Cwestiynau Cyffredin hyn, cysylltwch â’r adran studentadministration@glyndwr.ac.uk.

Os ydych yn dal i fod yn ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn ymwneud â benthyciadau myfyrwyr, gallwch anfon e-bost i slc_queries@glyndwr.ac.uk.

Cwestiynau am gofrestru ar-lein

1. Oes raid i mi gofrestru a beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn gwneud hynny?
Mae’n rhaid i chi gofrestru. Drwy wneud hynny, mae’r system yn cofnodi’n ffurfiol eich bod wedi dechrau’r cwrs a chewch eich cofrestru i gael amrywiaeth o wasanaethau, a bydd eich Benthyciad Myfyriwr ar gael i chi. Os na fyddwch yn cofrestru, ni allwch ddechrau’ch cwrs a ni chewch ddefnyddio gwasanaethau’r Brifysgol. Cewch wahoddiad i gofrestru drwy lythyr. Ar ôl cael y gwahoddiad, y ddolen i’r system gofrestru yw evision.glyndwr.ac.uk.

2. Rwyf wedi rhag-gofrestru ar-lein mae’n rhaid i mi fynd i’r diwrnod cofrestru hefyd?
Drwy gofrestru ar-lein, byddwch yn rhoi’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd ei hangen ar y Brifysgol. Dim ond ar ôl bod yn bresennol yn y Brifysgol y bydd y broses yn cael ei chwblhau a hynny er mwyn i ni weld eich dogfennau adnabod a’ch gweld chi yn y cnawd. Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn mynnu ein bod yn gwneud hynny cyn y byddant yn talu’ch benthyciad.

3. Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair, beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair, dilynwch y cyfarwyddiadau yn services.glyndwr.ac.uk/apr.

4. Rwyf wedi cael fy nghloi allan o’r system gofrestru. Pwy ddylwn i gysylltu?
Gofalwch fod gennych gyfrinair dilys i fewngofnodi. Gallwch ailosod eich cyfrinair drwy fynd i services.glyndwr.ac.uk/apr/. Os ydych yn dal yn cael trafferth, neu os cewch neges yn dwed “Invalid portal content,” anfonwch e-bost i studentadministration@glyndwr.ac.uk.

5. Sut ydw i'n dod o hyd i dudalen fy nghofnod myfyriwr?
Defnyddiwch y ddolen isod i fewngofnodi a chwblhau’r broses gofrestru evision.glyndwr.ac.uk. Bydd angen eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i fewngofnodi. Os ydych yn fyfyriwr newydd, cewch enw defnyddiwr a chyfrinair yn yr e-bost a gewch yn eich gwahodd i rag-gofrestru.

6. Beth os nad yw’r modiwlau’n gywir ar y system?
Gofalwch eich bod yn cwblhau’r broses gofrestru ar-lein hyd yn oed os na allwch ddewis yr holl fodiwlau ar gyfer eich cwrs. Mae’n well cwblhau’r broses a datrys unrhyw broblemau’n ymwneud â’ch modilwau wedyn na pheidio â chofrestru o gwbl.

7. Beth os byddaf yn allgofnodi o’r broses ailgofrestru cyn gorffen neu’n colli cysylltiad?
Dylch fedru mewngofnodi eto. Bydd y system yn ceisio ailddechrau o lle bynnag roeddech wedi cyrraedd.

8. Pam nad yw rhai newidiadau i’m cofnod i’w gweld ar unwaith?
Mae rhai newidiadau yr hoffem eu cadarnhau gyda chi cyn iddynt ymddangos ar eich cofnod (ee newid enw). Bydd newidiadau eraill yn cael eu gwneud ar unwaith.

9. Pam ydw i’n caniatáu i chi roi fy nata personol i drydydd partïon?
Er mwyn i’r Brifysgol roi gwasanaeth addysgol i chi, mae angen rhannu’ch gwybodaeth ag eraill. Cewch wybod pwy yw’r rhain drwy ddarllen yr Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr a’r tablau. Gall trydydd partïon gynnwys yr Undeb Myfyrwyr, cyrff statudol, CCAUC a’r awdurdod lleol (at ddibenion eich eithrio rhag talu’r dreth gyngor a’r gofrestr etholiadol). NI fyddwn yn rhannu’r wybodaeth yn y categori gwybodaeth sensitif heb i chi roi caniatâd clir i ni wneud hynny.

 

Cwestiynau am fenthyciadau myfyrwyr

Talu Benthyciadau Myfyrwyr – gwybodaeth bwysig. Gall gymryd hyd at 5 diwrnod (myfyrwyr llawn amser), a 14 diwrnod (myfyrwyr rhan amser) i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr dalu’r benthyciad ar ôl i’r Brifysgol gadarnhau’ch bod wedi cofrestru, waeth beth yw’r dyddiad sydd wedi’i nodi ar eich llythyr asesu. Y rheswm mwyaf cyffredin dros unrhyw oedi yw’r ffaith nad yw myfyrwyr yn anfon eu Datganiad yn ôl at y Cwmni. Gofalwch fod gan y Cwmni eich manylion banc cywir. Os ydych yn fyfyriwr rhan amser, gofalwch fod eich credydau academaidd yn gywir. Fel arall, mae’n bosibl y bydd oedi cyn y cewch eich taliad.

10. Myfyrwyr newydd
Caiff eich benthyciad myfyrwyr ei dalu pan fyddwch wedi cwblhau’ch cais am gyllid myfyrwyr, wedi anfon eich Datganiad yn ôl i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac wedi cwblhau’r broses gofrestru yn y Brifysgol. Ni all y Brifysgol gadarnhau’ch presenoldeb cyn i chi gwblhau’r broses gofrestru. Bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn awtomatig pan fyddwch wedi ailgofrestru, a hynny’r un diwrnod fel arfer. Os ydych yn fyfyriwr rhan amser, gofalwch fod eich credydau academaidd yn gywir. Fel arall, mae’n bosibl y bydd oedi cyn y cewch eich taliad.

11. Myfyrwyr sy’n dychwelyd
Bydd eich Benthyciad Myfyrwyr yn cael ei dalu pan fydd eich cais am fenthyciad ar gyfer y flwyddyn wedi cwblhau a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi’i brosesu, pan fyddwch wedi anfon eich datganiad yn ôl i’r Cwmni a phan fyddwch wedi cwblhau’r broses ail-gofrestru ar-lein neu yn y Brifysgol. Ni chaiff benthyciadau eu talu ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n dychwelyd yn ailgofrestru ar-lein: bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i’w Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn awtomatig pan fyddwch wedi ailgofrestru.

12. Pryd geith fy Menthyciad ei dalu?
Bydd eich Benthyciad Myfyriwr yn cael ei dalu hyd at 5 diwrnod gwaith (myfyrwyr llawn amser) a 14 diwrnod gwaith (myfyrwyr rhan amser) ar ôl i chi gofrestru’n ffurfiol ac ar ôl diwrnod cyntaf y tymor, sef 25 Medi 2017, cyn belled â’ch bod wedi cwblhau’ch cais am Gyllid Myfyrwyr ac wedi llofnodi/dychwelyd eich Datganiad i Gyllid Myfyrwyr. (Gofalwch eich bod yn caniatáu digon o amser i hyn gael ei brosesu). Sylwch y bydd oedi posibl os nad yw’ch cais yn gywir (ee os nad yw enw’r cwrs, y ffioedd neu’r flwyddyn astudio’n gywir). Mae angen i fyfyrwyr rhan amser sicrhau bod y nifer gywir o gredydau y byddant yn eu hastudio wedi’i chofnodi neu gall hynny arwain at oedi.

13. Mae’r manylion yn fy llythyr gan Gyllid Myfyrwyr yn anghywir. Beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr ar unwaith i wneud yn siŵr bod eich cais wedi’i gwblhau a’i fod yn gywir erbyn dechrau’r tymor.

14. Mae'r dyddiad ar fy llythyr Cyllid Myfyrwyr yn nodi dyddiad talu, a fyddaf yn cael fy arian ar y dyddiad hwn? 
Hwn yw’r dyddiad safonol y bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr yn ei ddefnyddio ar gyfer dyddiad dechrau’r tymor – nid oes unrhyw sicrwydd y cewch yr arian ar y dyddiad hwn.

15. Oes angen i’r Brifysgol sganio’r llythyr a gefais gan Gyllid Myfyrwyr?
Nac oes. Er bod eich llythyr yn dweud y bydd angen i’r Brifysgol weld neu sganio’ch rhestr taliadau, dim ond os byddwn yn gofyn yn benodol i weld y llythyr y bydd angen i chi ei ddangos. Mae Prifysgol Glyndŵr yn cael gwybodaeth am eich cyllid gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn uniongyrchol felly, fel arfer, does dim angen i ni weld eich llythyr.

16. Rwyf wedi siarad â Chyllid Myfyrwyr ac maent yn dweud nad yw’r Brifysgol wedi cadarnhau fy mod wedi cofrestru. Beth ddylwn i ei wneud?
Yn gyntaf, gofalwch eich bod wedi cofrestru ac wedi llofnodi a dychwelyd eich datganiad Os ydych wedi gwneud hyn, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad isod gan gynnwys y Rhif Cymorth Myfyriwr a gawsoch gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (bydd y rhif yn dechrau ag SFWU neu SFDU) a rhif myfyriwr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam srs_slc_queries@glyndwr.ac.uk.

17. Rwy’n llenwi ffurflen gais bapur gyda Chyllid Myfyrwyr, oes angen i mi lenwi’r ffurflen llofnod myfyriwr?

Os ydych wedi cwblhau cais papur ar gyfer eich Cyllid Myfyriwr, sicrhewch fod y rhan datganiad myfyriwr o’r ffurflen llofnod myfyriwr wedi’i llofnodi a’i dyddio. Nid yw eich cais gael ei brosesu gan Cyllid Myfyrwyr nes eu bod wedi derbyn hwn.

Am rhagor o wybodaeth, cyferiwch at wybodaeth gwefan Cyllid Myfyrwyr ar ‘Ffurflenni Cyllid Myfyrwyr’.

Cwestiynau am Moodle ac ADR

18. Beth ydi ADR?
Mae ADR yn golygu Amgylchedd Dysgu Rhithwir ac mae'n blatfform mae'r Brifysgol yn defnyddio i wneud adnoddau a chynnwys dysgu ar gael i chi. Platfform y Brifysgol ydi Moodle a bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle i weld adnoddau eich cwrs ac i gyflwyno aseiniadau.

19. Beth ydi Moodle?
Mae Moodle yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADR) mae'r Brifysgol yn ei ddefnyddio i roi mynediad i adnoddau dysgu a chynnwys eich cwrs i chi. Bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle i weld adnoddau eich cwrs ac i gyflwyno aseiniadau. Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos.

20. Sut gai fynediad i Moodle?
Rydych yn mewngofnodi ar Moodle drwy fynd i wefan y Brifysgol a chlicio ar y Porth MyUni ar ben y sgrin i'r dde. Cliciwch ar y bocs glas mawr i fewngofnodi a byddwch yn derbyn anogwr i fewnbynnu eich enw defnyddiwr a chyfrinair. Pan rydych wedi gwneud hyn byddwch yn gweld bocs yn dweud "VLE (Moodle)", cliciwch hwn i fynd i Moodle. Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos.

21. Pa mor fuan cyn i'r cwrs ddechrau bydd gennyf i fynediad i Moodle?
Cyn gynted rydych wedi cwblhau'ch proffil myfyriwr ac wedi creu cyfrinair gallwch fewngofnodi ar Moodle. Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos. Mewngofnodwch cyn gynted a fedrwch chi os gwelwch yn dda ar ôl cwblhau'ch proffil myfyriwr er mwyn sicrhau bod eich mynediad i Moodle yn barod ac yn gywir cyn i chi ddechrau'ch cwrs.

22. Rwyf wedi mewngofnodi ar Moodle ond pam na fedrai weld fy nghwrs wedi'i restru?

Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos. Mewngofnodwch cyn gynted a fedrwch chi os gwelwch yn dda ar ôl cwblhau'ch proffil myfyriwr er mwyn sicrhau bod eich mynediad i Moodle yn barod ac yn gywir cyn i chi ddechrau'ch cwrs.

23. Rwyf wedi mewngofnodi ar Moodle ac mae'r modiwl anghywir wedi'i restru, beth ydw i angen gwneud?

Bydd angen i chi gysylltu â studentadministration@glyndwr.ac.uk pwy all eich helpu i ddiweddaru'ch cofnod gyda'r modiwlau cywir.

24. Pwy ydw i angen cysylltu ag os oes gen i drafferth mewngofnodi ar Moodle?

Bydd angen i chi gysylltu â GWASANAETHAU TG drwy e-bost ar itservices@glyndwr.ac.uk pwy all eich helpu ymhellach.

 

Cwestiynau am lythyrau a chymorth arall

25. Sut ydw i'n derbyn llythyr i agor cyfrif banc neu i dderbyn aelodaeth campfa Myfyriwr?
Gallwch argraffu llythyr cadarnhad astudiaethau eich hunain drwy fewngofnodi ar eich cofnod myfyriwr. Mae canllaw syml ar argraffu'r rhain hefyd ar gael drwy fynd i students.glyndwr.ac.uk/home-2/student-administration/forms.

26. Sut ydw i'n derbyn Llythyr Eithriad o Dreth Cyngor?
Os ydych yn byw yn ardal Bwrdeistref Sir Wrecsam yna ni fydd angen i chi dderbyn llythyr gan fyddem yn cadarnhau eich presenoldeb myfyriwr os ydych yn caniatáu i ni rannu'r wybodaeth yma - gallwch wneud hyn pan rydych yn cofrestru/ail-gofrestru neu ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi ar eich cofnod myfyriwr ar-lein ac yn diweddaru eich dewisiadau caniatâd. Os ydych yn byw tu allan i Fwrdeistref Sir Wrecsam yna gallwch argraffu llythyr Treth Cyngor eich hunain drwy fewngofnodi ar eich cofnod myfyriwr. Mae canllaw syml ar argraffu'r rhain hefyd ar gael drwy fynd i students.glyndwr.ac.uk/home-2/student-administration/forms.