Llongyfarchiadau ar gadarnhau'ch lle ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam!

Mae'r amser bron yma ichi ymuno â ni, ac ni fedrwn ni ddisgwyl eich croesawu chi.
Bydd yr wythnosau i ddod yn amser prysur iawn, felly ein nod yw ei wneud mor syml â phosibl ichi drefnu popeth byddwch angen arnoch cyn ichi gyrraedd y campws.

Rydym wedi llunio rhestr isod o bopeth sydd angen ichi wybod cyn ichi ddod yma.

Cofrestru Ar-lein

Cyn i chi ddechrau'ch cwrs yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, bydd angen ichi gofrestru'n swyddogol fel myfyriwr. Gallwch chi wneud hyn ar-lein a chewch chi e-bost fydd yn cynnwys y ddolen i'ch galluogi i wneud hyn cyn i chi gyrraedd.

Edrychwch ar y rhan cofrestu am fwy o wybodaeth am cyn-cofrestru a beth fyddwch angen arnoch yn barod ar gyfer cofrestru ar-lein.

Rhowch drefn ar eich cyllid myfyriwr

Bydd y ffioedd y byddwch yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael i chi'n dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ewch i'n prif dudalennau ffioedd a chyllid myfyrwyr i ddarganfod faint yn union fydd rhaid ichi ei dalu, ac a ydych chi'n gymwys i dderbyn unrhyw becynnau cymorth neu beidio.

Mae'n bosibl y byddwch yn dymuno agor cyfrif banc i fyfyrwyr lle gallwch dderbyn rhandaliadau eich benthyciad a lle gallwch gyllidebu ar gyfer eich gwariant,  Mae'r rhan fwyaf o fanciau'r stryd fawr ar gael yng nghanol dref Wreecsam ac mae digon o gyngor ar-lein am ba gyfrif fydd y dewis gorau.  Mae'n bosibl y bydd rhai'n cynnig cymhellion i'ch perswadio i agor cyfrif ond gwnewch yn siwr nad ydych yn cael eich dal gan unrhyw gostau neu faglau cudd.  Darllenwch mwy yn ein blog myfyrwyr.

Archwebwch eich llety

Os ydych yn symud i ffwrdd o gartref, bydd angen i chi ddod o hyd i lety addas - yn Glyndwr Wrecsam rydym yn cynnig llety ar, ac oddi ar, y campws yn dibynnu ar eich anghenion a'ch cyllideb. Gall llefydd lenwi'n gyflym, felly dylech geisio archebu cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn eich cynnig am le. Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, ewch i'n prif dudalennau llety am fwy o wybodaeth.

Cymorth

Os oes gennych anghenion ychwanegol ac yn teimlo y gallech fod angen cymorth ychwanegol wrth ddechrau yn y brifysgol, rhowch wybod i ni cyn i chi gyrraedd.  Bydd unrhyw beth a ddywedwch wrth i ni yn gyfrinachol ac ni chaiff ei rannu heb eich caniatâd. Os hoffech chi gael gwybod mwy am ein gwasanaethau a'r cymorth y gallwn ei gynnig, gallwch gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol ar 01978 293266 neu drwy anfon e-bost at inclusion@glyndwr.ac.uk.

Fel arall, gallwch weld mwy o wybodaeth yn ein hadran cymorth myfyrwyr.

Paratoi ar gyfer eich astudiaethau

Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ein nod ydi i'ch helpu setlo i mewn i'r brifysgol a'ch helpu i adeiladu'ch sgiliau digidol yn ystod eich rhaglen astudio gyda ni.

Ar ôl i chi gofrestru

Mewngofnodwch ar y Porth Myuni drwy fynd i myuni.glyndwr.ac.uk ar eich porrwr we a defnyddiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair a roddir i chi er mwyn cofrestru.

Gwyliwch y fideo cyflwyniad yma ar y Porth Myuni a'r ADR.

Cliciwch ar y botwm "VLE (Moodle)" o fewn y Porth MyUni;

Hwn ydi'n Amgylchedd Dysgu Rhithwir byddwch angen cyrchu yn rheolaidd drwy gydol eich rhaglen astudio. O fewn 24 awr ar ôl ichi fewngofnodi am y tro cyntaf, bydd eich rhaglen a modiwlau yn dangos ar y dangosfwrdd o fewn Moodle.

Byddwch yn derbyn gohebiaeth gan y Brifysgol drwy'ch e-bost myfyriwr ac mae gennych gyfrifoldeb i edrych arno yn rheolaidd. Gallwch ddarganfod gwybodaeth am yr e-bost myfyrwyr ar ein tudalennau E-bost Myfyrwyr. Rydym, felly, yn argymell eich bod yn blaenyrru'ch e-bost myfyriwr i'ch e-bost personol yr ydych yn defnyddio'n rheolaidd. Bydd y fideo yma ar flaenyrru'ch E-bost myfyriwr yn dangos i chi sut i wneud hyn.

Cychwyn cwrs yn hwyrach?

Os oes gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â modiwlau ar y rhaglen Prifysgol Glyndŵr Wrecsam rydych wedi gwneud cais amdano, gallwch wneud cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol / Gydnabyddiaeth o Ddysgu Profiadol Blaenorol (GDB/GDPB).

Bydd hyn yn eich eithrio rhag ail-wneud modiwlau rydych wedi gwneud yn barod. Gallwch ymgeisio am eithriad o fodiwl unigol hyd at ddwy-traean o werth credydau'r rhaglen gyfan.

Am fwy o wybodaeth am GDB/GDPB, edrychwch isod:

Cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae digon o ffyrdd o gysylltu â'r brifysgol ond mae defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn lle da i ddechrau.

Beth am ein dilyn ar y cyfrifon isod:

Gallwch hefyd ymuno â thudalen facebook swyddogol yr Undeb Myfyrwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau cymdeithasol, ymgyrchoedd a chynigion arbennig - mae hefyd yn ffordd dda o gyfarfod dechreuwyr newydd eraill a chyd-aelodau eich cwrs cyn i chi hyd yn oed gyrraedd.

Derbyniwch y Brechiad

Mae myfyrwyr sy'n dod i'r brifysgol am y tro cyntaf mewn risg uchel o heintiad gan maent yn debygol o fyw yn agos at ei gilydd mewn llety a rennir, fel llety myfyrwyr prifysgol. Dyna pam argymhellir y dylai fyfyrwyr sy'n mynd i brifysgol dderbyn y brechlyn MenACWY i wella eu hamddiffyniad yn erbyn pedwar achos gwahanol o feningitis a septicaemia - clefydau Meningococcal (Men) A, C, W ac Y.