Pa bynciau sy'n cael eu cynnwys

  • Digidol yn Prifysgol Wrecsam
  • Cwricwlwm cudd
  • Bywyd Myfyrwyr a Champws
  • Y Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF) - Sut rydych chi'n dysgu a sut rydym yn dysgu
  • Tiwtoriaid Personol  
  • Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu 
  • TrACE 
  • Cyfanrwydd Academaidd
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cymraeg yn Prifysgol Wrecsam
  • Ymddygiad ac Ymgysylltu â Myfyrwyr 

Mae'r holl ddeunyddiau dysgu ar gael ar yr amgylchedd dysgu rhithwir (neu VLE) a elwir yn Moodle ac maent yn fideos byrion ac erthyglau i'w darllen. Mae Moodle yn llwyfan y byddwch chi'n ei ddefnyddio yn ystod eich astudiaethau. Caiff rhai o'r sesiynau eu cyflwyno'n fyw, gan roi cyfle i chi ofyn cwestiynau a thrafod yr hyn sydd wedi cael ei rannu.

Yn ystod yr Wythnos Groeso, bydd rhai o'r sesiynau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb hefyd, er mwyn eich galluogi i ofyn cwestiynau a thrafod yr hyn a rennir.

Mae'r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn cynnwys cwestiynau prawf aml-ddewis ar Moodle (lle nad oes marciau pasio na methu). Bwriad y rhain yw gwirio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael ym Mhrifysgol Wrecsam i gefnogi eich astudiaethau.

Mae modd i chi edrych hefyd ar Fanyleb Modiwl ffurfiol sydd wedi'i ddilysu ar gyfer y modiwl cynefino.

I gofrestru, peidiwch ag anghofio ticio'r blwch ar eich cofrestriad.

Screen grab of the Terms and conditions tick box