Cofrestru

Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n dychwelyd ar ôl toriad yr haf ailgofrestru er mwyn parhau â'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam a sicrhau eich bod yn derbyn eich taliadau benthyciad myfyrwyr.

Anfonir cais drwye-bost i chi ymlaen llaw i'ch galluogi i ailgofrestru ar-lein - os ydych yn aros am ailasesiad ar ôl yr haf, bydd y cais hwn drwy e-bost yn dilyn eich bwrdd asesu.

Ceir pob gohebiaeth a wneir i chi ei gwneud drwy eich prif gyfeiriad e-bost myfyriwr.

Gofynnwn i chi sicrhau bod eich holl fanylion yn gyfredol er mwyn gwarantu y bydd y wybodaeth berthnasol yn hygyrch i chi yn y dyfodol. Gwiriwch eich cofnod myfyriwr a'i ddiweddaru os oes angen.

Nodwch bydd rhaid i chi ailgofrestru bob blwyddyn academaidd, a rhaid i chi hefyd dalu eich ffioedd yn llawn bob blwyddyn. Ni cheir myfyrwyr sydd â dyledion ariannol o'r flwyddyn flaenorol ail-gofrestru ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Nid yw eich cofrestriad wedi'i gwblhau'n llawn nes i chi dalu'ch holl ffioedd sy'n ddyledus am y flwyddyn.

Gallwn gadarnhau, ar ôl ailgofrestru'n llwyddiannus gyda'r Brifysgol, y byddwn yn hysbysu Cyllid Myfyrwyr yn awtomatig gyda'r wybodaeth eich bod wedi cofrestru. Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, yna gall gymryd rhwng 3-5 diwrnod gwaith ar ôl cofrestru i chi dderbyn eich arian. I fyfyrwyr rhan amser gall gymryd hyd at 14 diwrnod.

Dyddiadau Cwrs

Bydd myfyrwyr sy'n dychwelyd yn dechrau ar y wythnos sy'n cychwyn Hydref 2 2023.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, gwiriwch amserlen eich cwrs drwy'r MyUniPortal. Mae'n bosib y bydd amserlenni'r cyrsiau'n newid ac mae'n bosib ceir newidiadau eu gwneud yn agos i bryd byddwch chi'n dychwelyd felly gwiriwch yr amserlenni'n rheolaidd rhag ofn y bydd newidiadau.

Cardiau Adnabod Myfyriwr

Byddwch angen cadw eich cardiau adnabod myfyriwr er mwyn eu defnyddio o flwyddyn i flwyddyn ac ni fyddem yn eu hail-argraffu (oni bai mewn achosion o gardiau a gollwyd neu a ddifrodwyd). Os rydych angen cerdyn newydd, gyrrwch e-bost i learningresources@glyndwr.ac.uk.

Llety

Yn yr un modd â myfyrwyr blwyddyn gyntaf, mae croeso i fyfyrwyr sy'n dychwelyd byw yn Llety Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Boed chi'n astudio yn ein campws Wrecsam neu Llaneurgain, mae yna ddewis da o lety sydd piau'r brifysgol ar gael i archebu ar ein tudalen llety. Mae ein tîm llety wrth law os ydych angen cymorth a gallwch yrru e-bost atynt ar accommodation@glyndwr.ac.uk.

Os ydych yn dewis symud allan i lety preifat yn eich ail neu drydedd flwyddyn yn y brifysgol, gallwch chwilio am y llety eich hunan neu ddefnyddio ein cyfleuster chwilio am lety ar-lein.