Gall cyrraedd y brifysgol am y tro cyntaf fod yn brofiad llethol, ond peidiwch â phoeni gan fydd yn ddigon o staff a myfyrwyr o gwmpas yn ystod yr Wythnos Croeso i'ch helpu i setlo i mewn ac i chi ddod i adnabod y lle - yn fuan iawn byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchoedd ac yn gwybod lleoliad popeth byddwch angen, boed hynny ar lein neu ar y campws.

Rydym wedi postio ychydig mwy o awgrymiadau isod i'ch helpu i ddod i adnabod eich ffordd o gwmpas y campws a thu hwnt.

Map Campws

Lawrlwythwch gopi o'n map campws isod er mwyn ichi wybod ble rydych yn mynd i pan fyddwch yn cyrraedd:

Os ydych chi'n astudio yn ein Hysgol Gelf yn Stryd y Rhaglaw - dim ond taith fer ar droed yw'r ysgol (tua 10 munud) o'r prif gampws yn Wrecsam

Trafnidiaeth

Mae’r brifysgol yn cynnig trafnidiaeth rhwng y campysau Wrecsam a Llaneurgain. Os ydych angen trafnidiaeth, efallai byddwch yn medru derbyn bws gwennol am ddim yn dibynnu ar y dyddiad ac amser. Dylai’ch arweinwyr rhaglen roi mwy o wybodaeth i chi am hyn.

Mae meysydd parcio ar gael i fyfyrwyr yn ein campysau Wrecsam a Llaneurgain.

Bwyd a diod

Er bod yna gyfleusterau coginio yn ein neuaddau prifysgol i gyd, mae’r Brifysgol yn cynnig rhagor o opsiynau bwyd a diod ar y campws i fyfyrwyr fwyta, yfed, ymlacio a chymdeithasu.

Llyfrgell

Mae'r llyfrgell wedi ei lleoli yn adeilad Edward Llwyd, ac mae'n cyfuno ein stoc llyfrau gwrthrychol gydag amrywiaeth o fannau astudio, yn ogystal â chyfleusterau argraffu a chopïo.

Hefyd, byddwch hefyd yn gallu cyrchu nifer o e-Lyfrau ac e-Gyfnodolion.

Am fwy o gymorth gyda dysgu digidol, edrychwch ar ein pecyn cymorth digidol.

Archfarchnadoedd

Ynghyd â'n siop 'hanfodion' ar y campws, rydyn ni wedi ein lleoli drws nesaf i Barc Manwerthu Plas Coch lle mae Sainsbury's ac Aldi wedi’u lleoli, yn ogystal â manwerthwyr defnyddiol eraill.

Mae hefyd peiriant arian yn Sainsbury's yn ogystal ag yng ngorsaf Betrol Shell, sydd gyferbyn â phrif fynedfa'r brifysgol.

Manwerthu

Yn ogystal â rhagor o fannau darparu bwyd, mae hefyd Siop Gelf yn Stryd y Rhaglaw a Siop Argraffu a Llyfrau yn adeilad ein Hundeb Myfyrwyr. Mae adeilad yr Undeb Myfyrwyr hefyd yn gartref i gloer Amazon felly gallwch archebu pethau'n ddiogel ar-lein, heb boeni am fod adref i'w derbyn.

Mae Canol Tref Wrecsam, gan gynnwys y parc Siopa a Hamdden boblogaidd Dôl yr Eryrod, dim ond yn daith fer ar draed o'r prif gampws ble gewch chi ystod eang o siopau, bwytai a chyfleusterau adloniant stryd fawr.

Darganfod mwy am yr hyn sydd gan Wrecsam i'w gynnig.

Treth Cyngor a Chyfrifon Banc Myfyrwyr

Os oes angen prawf o gadarnhad o astudiaethau arnoch, gallwch nawr argraffu hwn eich hun. Fel arfer bydd angen i chi ddarparu prawf o'ch astudiaethau ar gyfer pethau fel agor cyfrif banc myfyrwyr, aelodaeth campfa myfyrwyr neu i roi i'ch cyngor lleol er mwyn derbyn eithriad treth cyngor. Dilynwch y canllaw Hunanwasanaeth yma am fanylion ar sut y gallwch argraffu'r dogfennau hyn eich hun.