Cystadleuaeth YmchwilDelweddu 2022

Ynghylch y Gystadleuaeth
Mae Cystadleuaeth Ymchwil Delweddu Prifysgol Glyndŵr yn dathlu ei ymchwil, tynnu sylw at ei amrywiaeth, ac yn gwobrwyo'r unigolion a thimau ymchwil sy'n gwneud hyn yn bosib. Dyma'r drydedd flwyddyn y gystadleuaeth, ac mae'n gwahodd yr holl staff ymchwil gweithredol a myfyrwyr ymchwil i gymryd rhan.
Mae'n ffaith adnabyddus bod pobl yn rhoi fwy o sylw i luniau na llawer o ysgrifennu dwys, ac mae ein cystadleuaeth yn herio ymchwilwyr i gipio stori eu prosiect mewn un ddelwedd sengl. Nid yw'n hawdd, yn enwedig os yw eich maes pwnc yn wyddoniaeth galed ac nid yw cynrychiolaeth weledol o gysyniadau yn ffordd draddodiadol o arddangos eich gwaith... ond mae hynny'n rhan o'r hwyl!
Gall delweddau helpu i ymgysylltu a chipio sylw eich cynulleidfa darged. Gall y dull hwn o ledaenu eich helpu i gyrraedd pobl na fyddant fel arfer yn dangos diddordeb yn eich gwaith nac yn deall y jargon academaidd. Mae un llun yn werth mil o eiriau, yn ôl y sôn.
Gall ymdrin ag ymgysylltiad cyhoeddus mewn ffordd fwy creadigol hefyd eich helpu i ddehongli eich hun fel ymchwilydd, a gall hyd yn oed gynnig buddion llesiant. Canfu un astudiaeth bod tynnu llun a'i rannu bob dydd yn cynnig sawl mantais, gyda'r cyfranogwyr yn datgan bod treulio amser i ofalu am eu hunain yn rhoi hwb i'w hwyliau, a gallai gynnwys pum munud i dynnu llun ar ffôn neu anogaeth i fynd allan o'r tŷ i ddod o hyd i leoliad ffotogenig.
Ers dechrau'r gystadleuaeth, rydym wedi cael cynigion gwych gan staff a myfyrwyr ymchwil Glyndŵr ar draws sawl maes pwnc amrywiol. Mae rhai pobl yn dewis cyflwyno llun traddodiadol, eraill yn dewis golygfa wedi'i osod yn benodol, a rhai hyd yn oed wedi defnyddio meddalwedd golygu llun i ychwanegu haenau ychwanegol at eu cynnig. Nid oes terfyn i'r posibiliadau, felly ewch ati i fod yn greadigol heddiw!
Pwy sy'n gymwys i gymryd rhan?
- Mae pob ymchwilydd doethurol cyfredol yn gymwys i ymgeisio, gan gynnwys y rheiny sy'n ymgymryd â doethuriaethau proffesiynol.
- Mae pob aelod o staff presennol Prifysgol Glyndŵr yn gymwys i ymgeisio, ar yr amod ei fod yn a) gweithio tuag at radd ymchwil, b) yn meddu ar radd ymchwil ac ynghlwm yn weithredol â gwaith ymchwil, neu c) ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil fel aelod o staff academaidd.
- Rhaid cynhyrchu delweddau o ganlyniad i ymchwil a wnaed fel y nodir uchod.
Beth sydd ynddi i mi?
- Gallai delwedd sy'n ganlyniad uniongyrchol o'ch ymchwil neu sy'n cynrychioli agwedd arno ddenu diddordeb newydd yn eich gwaith. Gall y ddelwedd fod yn ddefnyddiol ar gyfer sawl peth, er enghraifft cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i'r wasg neu fel clawr i gyfrol hyd yn oed. Yn y pendraw gallai arwain at gynnydd yn y nifer o bobl sy'n cysylltu â'ch ymchwil a'i gyfradd gyfeirio.
- Os bydd eich delwedd yn cyrraedd y rhestr fer, caiff ei harddangos ym Mhrifysgol Glyndŵr, ar wefan Prifysgol Glyndŵr ac o bosibl yn lleoliadau eraill yn lleol a chenedlaethol; gan eich cydnabod chi a'ch syniadau.
A oes gwobr i'r enillydd?
Bydd gwobrau ariannol i'r enillydd (£250) a'r ddau yn ail (£50 yr un).
Sut ydw i'n cymryd rhan?
I gystadlu, crëwch lun a fydd yn ennyn diddordeb a dirgelwch yn eich ymchwil. Dylai'r ddelwedd hysbysu cynulleidfa academaidd anarbenigol, ennyn ei diddordeb a'i chyfareddu, a chynnig persbectif gweledol ar ymchwil lefel doethuriaeth gyfredol.
VR canllawiau ffurflen cais cystadlu 2022-2023
Lle allaf ddod o hyd i enghreifftiau?
Gellir dod o hyd i gofrestriadau y llynedd ar waelod y dudalen we hon.
Pryd fydd hi ar agor?
Bydd cystadleuaeth 2022-23 ym Mhrifysgol Glyndŵr yn agor ar Ddydd Mercher 31 Mai 2023.
Pryd fydd hi ar gau?
Bydd cystadleuaeth 2022-23 yn cau ar Ddydd Llun 31 Gorffennaf 2023.
A oes angen i mi fod yn fedrus o ran celf a ffotograffiaeth i gymryd rhan?
Dim o gwbl! Gweler y tystebau gan gyn-enillwyr isod. Byddwn yn cynnal gweithdy cynhyrchu syniadau yn fuan, ac fe'i hysbysebir yma.
Rwy'n ansicr sut i fynd o'i chwmpas hi. Sut allaf archwilio syniadau?
Rydym yma i helpu! Cymerwch olwg ar Agweddau at Ffotograffiaeth neu cysylltwch â Sue Liggett s.liggett@glyndwr.ac.uk neu’r Swyddfa Ymchwil researchoffice@glyndwr.ac.uk a byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau. Mae crynodebau defnyddiol i gyd-fynd â'r delweddau ar gael gan y Swyddfa Ymchwil. Gweler enillwyr a cheisiadau blaenorol am ysbrydoliaeth.