Enillwyr cystadleuaeth 2021-22 yw:

Fern Mitchell – enillwyr – gyda’i delwedd ‘Lens Cyfalaf Gwyddoniaeth’

Elena Cassidy-Smith – yn ail – gyda’i delwedd ‘Mordwyo'r twll cwningen’

Alison McMillan – yn ail – gyda’i delwedd ‘Os oes rhaid i chi gario unrhyw un yn ystod eich ymchwil gyrfa gynnar, dewiswch un ysgafn, a pheidiwch â gadael iddynt lywio’

Delweddu Ymchwil Cystadleuaeth 2021-22_ Ceisiadau.

Tystebau

"Cefais ail-gysylltu â'm hochr greadigol yn ystod y gystadleuaeth!  Ac ehangu fy ymchwil o safbwynt gwbl wahanol, gan adrodd y stori drwy'r lens.  Cefais gymorth gan gydweithwyr Seicoleg ar gyfer y llun terfynol.  Dyma'r elfen y mwynheais fwyaf o'r holl broses; roedd yn rhaid meddwl, ymddiried a chwerthin i gydio yn naws pob unigolyn a'r cyd-destun seicolegol.   

Byddwn yn argymell ymchwilwyr i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Mae creadigrwydd, myfyrio ac arloesedd yn rhannau pwysig o'r daith ymchwil yn fy marn i, ac mae hynny'n amlwg yn y gystadleuaeth hon.  

Mae'n gyfle y dylai pawb fanteisio arno o leiaf unwaith, waeth pa brofiad blaenorol sydd ganddynt gyda ffotograffiaeth - dim ond wrth roi cynnig ar bethau rydych yn dysgu beth sy'n bosib.  Rwy'n ddiolchgar i dîm datblygu ymchwil WGU am y cyfle hwn, eu cefnogaeth barhaus, ac am ddarparu'r gweithdy i gynhyrchu syniadau."

Gwennan Barton, enillydd Cystadleuaeth Ymchwil Delweddu 2020-21 a’r ail safle 2019-20 

"Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfrwng sy’n caniatáu i staff a myfyrwyr rannu a thrafod eu syniadau i bawb. O weld gwaith celf pobl eraill yn y gorffennol a’u syniadau, fe wnaeth fy ysbrydoli i gynnig rhywbeth ar gyfer y gystadleuaeth eleni."

Julian Ayresail safle Cystadleuaeth Ymchwil Delweddu 2020-21 

Cofrestriadau Cystadleuaeth

2019-2020 (top) 2020-2021 (gwaelod)