Prosiectau Ymchwil ac Ymgynghorol

Mae ymchwil ac ymgynghoriaeth Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn cynnwys cwmpas eang o bynciau busnes, o gyfrifeg, technoleg ariannol, economeg eiddo diriaethol, dadansoddiad effaith economaidd, gwybodaeth farchnata ddigidol, arweinyddiaeth entrepreneuraidd, econometrigau dysgu peirianyddol, rheoli adnoddau dynol i fethodoleg ymchwil.

Ymgymerir â gweithgareddau trwy arbenigedd y staff, gwaith a ariennir a thrwy oruchwyliaeth weithredol o’n myfyrwyr doethurol. Yn ogystal, mae aelodau o’r ganolfan yn gweithio gyda chydweithwyr o brifysgolion eraill er mwyn trefnu a chyflenwi gweithdai, seminarau a chiniawau diwydiannol.

Am fwy o wybodaeth am ymchwil cydweithredol, astudiaethau doethurol, ymgynghoriaeth, seminarau a gweithdai cyflenwol, cysylltwch â binsardia@glyndwr.ac.uk neu alexis.mason@glyndwr.ac.uk

Content Accordions

  • Cyhoeddiadau gan y staff a phapurau gweithio

    Detholiad o gyhoeddiadau Dr Ebenezer

    • (2023). ‘Gwerthuso effeithiolrwydd rheoli Dawn yng Ngwasanaethau Cyhoeddus yr Alban’, Papurau Gweithio.

    Detholiad o gyhoeddiadau Dr Fisher

    • (2023). ‘Effaith cynllunio strategol ar gwmnïau entrepreneuraidd yn y DU’, Papurau Gweithio.
    • (2022). ‘Mae methu addysgu yn addysgu i fethu. Pwysigrwydd cynllunio strategol addysgol ar gyfer entrepreneuriaid’, Papurau Gweithio.


    Detholiad o gyhoeddiadau Dr Leigh

    • (2021). ‘Penderfynyddion Cyfoeth Aelwyd: Dull Dysgu Peirianyddol’. Cynhadledd Ymchwil a Datblygu Economeg Newcastle, 3 Mehefin, gyda Damianov, D. a Slack, D.
    • (2021). ‘Penderfynyddion Cyfoeth Aelwyd: Dull Dysgu Peirianyddol’, 15fed Cynhadledd Rithiol IISES ar Economeg a Chyllid. 21-22 Mehefin, gyda Damianov, D. a Slack, D.
    • (2021). ‘Penderfynyddion Cyfoeth Aelwyd: Dull Dysgu Peirianyddol’, Cynhadledd Cyllid y Byd. 3-6 August, gyda Damianov, D. a Slack, D.

    Gwobrau Dr Mason a Detholiad o Gyhoeddiadau

    • (2023). ‘Gwerthuso ac Ansawdd Metreg ar gyfer Dysgu o Bell ac Addysgu Cyfunol’, gyda Binsardi, A. yn Gummesson, E., Díaz-Mendez, M. a Saren, M. (Golygyddion). Gwella Gwerthusiad o Waith Ysgolheigaidd: Theori Cymhwyso Gwasanaeth, Efrog Newydd, Springer.
    • (2014). “Sut i Samplu Defnyddwyr Cyffuriau a Phoblogaethau ‘Cudd’ Eraill: y Goblygiadau Methodolegol ar gyfer Ymchwilwyr Ansoddol”, Trafodion y Gynhadledd, Enwebwyd am y Papur Gorau, Rhif y Papur. 0378, Noddwyd gan Gynhadledd yr Academi Farchnata, 8-11 Gorffennaf, Prifysgol De Cymru, gyda Binsardi, A. a Harris, P.
    • (2010). ‘Papur i Ymarferwyr ar Seicometreg Marchnata Tramor gan Ddefnyddio Methodoleg Astudiaeth Achos’, Gwobr y Papur Gorau – Gwobr Ymarferwr (Enwebiad), Trafodion y Gynhadledd, Rhif y Papur 0362, Yr Academi Farchnata,
    • KTP. Rhif y Prosiect 000601, Prifysgol Coventry, 12-16 Gorffennaf, gyda Binsardi, A., Saren, M., Dean, A.
    • (2008). ‘Samplu Damcaniaethol mewn Theori Gadarn; Agweddau Methodolegol ac Addysgegol ar gyfer Ymchwilwyr Marchnata, Trafodion y Gynhadledd, Rhif y Papur 318, Cynhadledd Flynyddol yr AcadeMasoni Farchnata, 7-10 Gorffennaf, Gwobr y Papur Gorau. Noddwyd gan Ymchwil Ansoddol i’r Farchnad, Cylchgrawn Rhyngwladol (Emerald), a Phrifysgol Robert Gordon, gyda Binsardi, A.


    Detholiad o gyhoeddiadau Dr Muhyaddin

    • (2022). ‘Pwysau Rhanddeiliaid sy’n Ymgysylltu ag Egwyddorion yr Economi Gylchol a Pherfformiad Economaidd ac Amgylcheddol’, Cynaladwyedd, Cyf. 14, Rhif 23, t.16302, gyda Hernández-Arzaba, J.C., Nazir, S. a Leyva-Hernández, S.N.
    • (2022). ‘Polisi portffolio buddsoddi a chyllid tramor: Dadansoddiad wedi’i ddadgyfuno yn Nigeria’, Cylchgrawn yr Academi Entrepreneuriaeth, Cyf. 28, S6, tt. 1-17, gyda Can, N., Atabaev, N., Adamu, Y. ac Uulu, T.A.
    • (2022). ‘Dealltwriaeth o wybodaeth am ddiogelwch bwyd ymhlith myfyrwyr gwyddor bwyd yn Irac’, Gwyddor Maeth a Bwyd, Ar waith.
    • (2021). Canfyddiadau o Tseina a phwerau mawr eraill ymhlith Ieuenctid Kazakhstan a Krygzystan, Canol Asia a’r Cawcasws, Cyf. 22, Rhif 4, tt. 71-83, gyda Can, N., Koncak, I. a Keles, I.
    • (2021). ‘Ymchwiliad i’r strategaethau cynaladwyedd a ddefnyddir gan fentrau bach a chanolig Amaethyddol i oroesi yn yr Amgylchedd Gelyniaethus: Tystiolaeth o fentrau bach a chanolig sy’n cynhyrchu bwyd ac amaeth-fusnes yn Irac’, Papur Cynhadledd, Cyflwynwyd ym 5ed Gynhadeledd Camau Ymlaen mewn Rheoli ac Arloesi, gyda Ismail, I.
    • (2021). ‘Masnacheiddio Cynnyrch Newydd mentrau bach a chanolig i fanwerthwyr bwyd lluosog yn y DU’, Cylchgrawn Rheolwyr Busnes Bach, Ar waith.
    • (2021). ‘Ymchwilio i’r ystyriaethau a’r heriau sy’n wynebu mentrau bwyd bach a chanolig y DU wrth fasnacheiddio eu cynnyrch newydd i gwsmer manwerthu’, Polisi Bwyd, Gradd 3 Cyfnodolion CABS, Ar waith.
    • (2021). ‘Penderfynyddion Allweddol Prosesau Gwerthu Cynnyrch Newydd ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig yn y DU’, Polisi Bwyd, Gradd 3 Cyfnodolion CABS.
    • (2021). ‘Strategaethau i Oresgyn Problemau Seiliedig ar Bŵer Manwerthu Bwyd yn y Diwydiant FMCG’, Rheoli Marchnata Diwydiannol, Ar waith.
    • Muhyaddin,S. a Simko M. (2021). ‘Rhwystrau i ryngwladoli mewn mentrau bach a chanolig: tystiolaeth o Irac’, Entrepreneuriaeth a Datblygiad Rhanbarthol, Ar waith.


    Detholiad o gyhoeddiadau Dr Poopalasingam


    • (2023). ‘Sut mae gwneud synwyr yn dylanwadu ar ganlyniadau gwneud penderfyniadau mewn sefyllfa sefydliadol’, Papurau Gweithio, gyda Binsardi, A.
    • (2023). ‘Adolygiad o’r llenyddiaeth ar y prosesau gwneud synwyr a sut maent yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau mewn sefydliadau’, Papurau Gweithio, gyda Mallet, P.
    • (2022). ‘Defnydd methodoleg astudiaethau achos mewn deall prosesau gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio gwneud synwyr, rhoi synwyr a derbyn synwyr mewn sefydliadau’, Papurau Gweithio, gyda Mallet, P.


    Detholiad o gyhoeddiadau Dr Binsardi

    • (2023). ‘Dylanwad Cryptoariannau ar Is-gategorïau Tocynnau Anghyfnewidadwy Casgladwy, Metafyd, a Chelfyddydau”, Trafodion y Gynhadledd, Cyflwynwyd yn ‘Ystyriaethau mewn Marchnadoedd Ariannol a Bancio Cyfoes’, Ysgol Fusnes Nottingham, 17–18 Ionawr, gydag Alshahmy, S. a Nagirikandalage, P.
    • (2023). ‘Rôl Data Mawr yn Arferion Cyfrifyddu a Chyllidebu’r Sector Cyhoeddus: Tystiolaeth o Amgylchedd Pandemig Economi sy’n Dod i’r Amlwg”, Y Cylchgrawn Rhyngwladol Cyfrifyddu, Archwilio a Gwerthuso Perfformiad, Inderscience, Gradd 2* Cyfnodolion CABS, Statws: Wedi’i Derbyn, gyda Nagirikandalage, P. a Kooli, K.
    • (2023). ‘Cymhwyso Arferion Cyfrifyddu Rheoli o fewn Mentrau Bach a Chanolig ar gyfer Rheoli Materion Amgylcheddol mewn Economi sy’n Dod i’r Amlwg, Y Cylchgrawn Rhyngwladol Cyfrifyddu, Archwilio a Gwerthuso Perfformiad, Inderscience, Gradd 2* Cyfnodolion CABS, Statws: Wedi’i Derbyn, gyda Nagirikandalage, P. a Kooli, K.
    • (2022). ‘Strategaethau a thwyllau samplo archwiliad: Tystiolaeth o Affrica’, Y Cylchgrawn Archwilio i Reolwyr, Cyf. 37 Rhif 1, tt. 170-192. Emerald, Gradd 2 Cyfnodolion CABS, gyda Nagirikandalage, P. a Kooli, K.
    • (2021). ‘Data Mawr a Chyfrifyddu yn y Sector Cyhoeddus, Trafodion y Gynhadledd Ar-lein, 5ed Gynhadledd Ryngwladol y LIGUE, Gweddnewidiadau Dwfn a Tharfol: Y Normal Newydd ar gyfer Sefydliadau a’u Rhanddeiliaid, 29–30 Mehefin 2021, Trafodion y Gynhadledd, gyda Nagirikandalage, P. a Kooli, K.
    • (2021). ‘Y gwrthwynebiad mewn arferion cyfrifyddu rheolwyr tuag at economi newydd-ryddfrydol’, Y Cylchgrawn Cyfrifyddu, Archwilio ac Atebolrwydd, Cyf. 34, Rhif 3, tt. 616-650, Gradd 3 Cyfnodolion CABS, gyda Nagirikandalage, P., Kooli, K. a Pham, A.N.
    • (2020). ‘Sgiliau Rheoli ac Egin Fusnesau Bach yn y Sector Bwyd Gwledig’, Trafodion y Gynhadledd, 2-4 Medi, Academi Rheolaeth Prydain. Derbyniodd yr ymchwil hon arian trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, Rhif CRN 114-2048.
  • Ymchwil a ariennir a phrosiectau ymgynghorol
    • (2018/22). Teitl y Prosiect: ‘Sgiliau Rheoli ac Egin Fusnesau Bach’. Sefydliad Ariannu: Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, Rhif. CRN 1142048.
    • (2018/2022). Teitl y Prosiect: ‘Grymuso Menywod o Leiafrifoedd Ethnig trwy Fenter Gymdeithasol - prosiect EMWOSE’. Sefydliad Ariannu: Erasmus a’r Undeb Ewropeaidd Rhif. 2018-1-IE01-KA204-038781.
    • (2020). Teitl y Prosiect: ‘Archwilio’r Newid Tueddol Diweddar mewn Ymchwil Marchnata: Data Cyfryngau Cymdeithasol a’u Briodwedd Samplu’. Sefydliad Ariannu: Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. ESRC Rhif 4030008353.
    • (2019). Teitl y Prosiect: ‘Prosiect Ymchwil Trafnidiaeth Gogledd Cymru’. Sefydliad Ariannu: Cyngor Sir Ddinbych.
    • (2017/18). Teitl y Prosiect: ‘Dadansoddiad o Effaith ar Gyflogaeth ac Economaidd Prosiect Cronni Llanw gan Ddefnyddio’r Fethodoleg Genedlaethol Cyfrifyddu Incwm’.

Ymchwil Ddoethurol a’r Dyfarniadau a Gwobrau

Mae nifer o fyfyrwyr rhagorol wedi llwyddo i gyflawni ymchwil PhD yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru. Mae’r graddau doethurol canlynol wedi eu dyfarnu yn ein Hysgol, ymysg eraill, yn nhrefn y wyddor, sef: Dr Abu Mahmud, Dr Alexis Egerton (Derbynnydd Gwobr Alpha Kappa Alpha), Dr Anthony Bridger (Enwebwyd ar gyfer Gwobr Alpha Kappa Alpha), Dr Graham Jackson, Dr Ivan Barjasic, Dr Jan Green, Dr Jonathan Cartmell, Dr Masoom Ahmed, Dr Mehdi Hasan, Dr Padmi Nagirikandalage (Derbynnydd Gwobr Alpha Kappa Omega).

Dyfarniadau a gwobrau yn cydnabod doethuriaethau (Ysgol Fusnes Gogledd Cymru)

  • Dyfarnir y Wobr Alpha Omega Alpha i raddedig MPhil neu PhD o’r maes pwnc Rheolaeth, am gynhyrchu thesis MPhil neu PhD ag effaith ragorol ar faes ymchwil perthnasol (ymchwil yn ymwneud â dulliau damcaniaethol a threfnus) Mae’r dyfarniad hwn yn cydnabod thesis a gyfrannodd yn sylweddol at ddatblygiad theori a gwybodaeth o fewn y maes, ac sy’n arddangos gwreiddioldeb.
  • Dyfarnir y Wobr Alpha Kappa Alpha i raddedig MPhil neu PhD o’r maes pwnc Rheolaeth, o ganlyniad i effaith bosib y thesis MPhil/PhD ar y gymuned (ymchwil gweithredol neu gymhwysol) ac yn seiliedig ar effaith bosib y thesis ar les eraill, neu ar ei gyfraniadau cymhwysol.

Meysydd Ymchwil Cyfredol ar gyfer MPhil/PhD

Abeysinghe, Eranda. Working title: ‘An inquiry into organisations' sustainable cost management strategies to Enhance biodiversity and value creation’

Boudjada, D. Working title: ‘The Application of Artificial Intelligence in Financial Technology Using Multiple Linear Regression Matrices’.

Gough, Laura. Working title: ‘University and Industry Relationships: The Role and Impact of Industry’.

Jardine, Martine. Working title: ‘An investigative study of the critical success factors (CSFs) in the Welsh food and drink manufacturing industry’.

Taylor, Emma. Working title: ‘Assessing intrinsic and extrinsic benefit and reward incentives within organisations, and their impact on female gender and equality when investigating promotions and promotion opportunities’.

Wood, Tanya. Working title: ‘Structural Equation Modelling in Healthcare Marketing’.

Cwrdd â'r Tîm