Mae'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, sef y Concordat Datblygu Ymchwilwyr, yn gytundeb rhwng ymchwilwyr, rheolwyr ymchwilwyr, sefydliadau, a chyllidwyr ymchwil ar y disgwyliadau ar gyfer datblygiad proffesiynol ac amodau cyflogaeth ymchwilwyr yn y DU.

Llofnododd Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yr Athro Maria Hinfelaar, y Concordat Datblygu Ymchwilwyr ar 14 Chwefror 2022. Mae ein llythyr ymrwymiad, ynghyd â'n dadansoddiad o fylchau, cynlluniau gweithredu, ac adroddiad blynyddol i'w gweld isod.

Maria yn arwyddo Concordat ar gyfer Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Er mwyn sicrhau ein bod yn cwblhau ein cynllun gweithredu ac yn cyflawni ein cyfrifoldebau hyd eithaf ein gallu, rydym wedi ffurfio Gweithgor Concordat Datblygu Ymchwilwyr, sy’n cynnwys 18 aelod o bob rhan o’r Brifysgol ar wahanol gamau gyrfa. Mae wyth aelod yn staff gwasanaethau proffesiynol, mae deg yn academyddion, ac mae gan lawer gyfrifoldebau rheoli.

Esboniad o'r Concordat Datblygu Ymchwilwyr

 

Trawsgrifiad

Rhaglen Hyfforddiant a Datblygu Ymchwil 2023-2024

Rhaglen Hyfforddiant a Datblygu Ymchwil 2023-2024 (updated) Ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, Ôl-ddoethurol, Cynorthwywyr Ymchwil a Staff Academaidd

Dogfen Word Hygyrch (updated)

Gweithredoedd Presennol

Egwyddorion y Concordat

1. Amgylchedd a Diwylliant

2. Cyflogaeth

  • Ymchwilwyr
  • Rheolwyr Ymchwilwyr
  • Sefydliadau

3. Datblygiad proffesiynol a gyrfa

  • Ymchwilwyr
  • Rheolwyr Ymchwilwyr
  • Sefydliadau
 

Content Accordions