Uned Asesiad D32:

Celf a Dylunio

Defnyddiodd Glyndŵr y FfRhY2021 er mwyn cyflwyno i'r uned Celf a Dylunio am y tro cyntaf. Roedd dros 62% o'r allbynnau ymchwil o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol am wreiddioldeb, pwysigrwydd, a manwl gywirdeb. Roedd 100% o gynnwys yr astudiaethau achos ar gywirdeb yn dangos effeithiau sylweddol, neu sylweddol iawn, o ran eu pwysigrwydd a'u hymchwil.


Astudiaeth Achos Effaith 1: Ecosystemau Celfyddydau ac Iechyd yng ngogledd Cymru

Cefndir?

Mae'r Celfyddydau wedi cael eu defnyddio at ddibenion iechyd ledled gogledd Cymru, ac mae hynny wedi arwain at ecosystem Celfyddydau mewn Iechyd sy'n parhau i dyfu, a chymuned o arfer gorau datblygol.

Pwy oedd ynghlwm?

Cafodd staff Celf a Dylunio a myfyriwr PhD o Brifysgol Glyndŵr weithio gyda rhanddeiliaid allweddol o bob cwrs o ogledd Cymru.

Y gwaith?

Drwy rwydweithio a chydweithio gyda rhanddeiliaid, aethpwyd ati i ddechrau prosiect ymchwil yn seiliedig ar arfer o'r enw ‘in-between-ness’, a oedd yn ymgorffori'r celfyddydau gweledol o fewn prosesau triniaethau ar gyfer y rheiny gydag iselder clinigol. Roedd y prosiect yn sail ar gyfer 'potensial paentio', a oedd yn edrych yn fanwl ar baentio fel ffordd o fynegi a chyfathrebu ar gyfer y rheiny sy'n byw gyda Dementia.

Beth oedd yr effaith?

Mae'r prosiectau'n cefnogi cyfraniad y tîm at bolisïau a chanllawiau drwy aelodaeth â phwyllgor llywio Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru, a chynrychioli dros 90 o ymarferwyr yn y maes celfyddydau yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwaith i Grŵp Trawsbleidiol Celfyddydau ac Iechyd Senedd Cymru, Grŵp Hollbleidiol Seneddol Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Senedd y DU (2014-2017), a Chonffederasiwn GIG Cymru. Yn lansiad Concordat Celfyddydau ac Iechyd Gogledd Cymru, aeth y tîm ati hefyd i drafod ag ysgrifennydd cabinet Cymru dros Wasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Gwnaeth y lledaeniad hwn o wybodaeth siapio cynnwys polisïau a chanllawiau a ddefnyddiwyd o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan ymgorffori'r celfyddydau mewn mentrau iechyd ar draws GIG Cymru. Llwyddodd y gwaith hwn i siapio hyfforddiant, datblygiad ac arferion gweithio ymarferwyr celfyddydau ac iechyd hefyd, a dangos effeithiau llesiant cadarnhaol ar gyfer y rheiny oedd yn defnyddio'r gwasanaeth.

Cyfeiriadau at Ymchwil

Visual Arts, Mental Health, and Technology

Time and the Chora: 'Transitory Strata' and 'in-between-ness' within 'Dream Films'

 


Astudiaeth Achos Effaith 2: ‘Carbon meets Silicon’ Prosiectau Curadurol a Chydweithio.

Cefndir?

Roedd ‘Carbon meets Silicon’ yn arddangosfa a oedd yn canolbwyntio ar uno pobl â gwyddoniaeth, ac ysgogi gwaith cydweithredol rhyngddisgyblaethol ar draws y celfyddydau a thu hwnt.

Pwy oedd ynghlwm?

Roedd staff o fewn adran Celf a Dylunio Glyndŵr a Chymrodoriaethau Ymchwil Ymweliadol ynghlwm â'r ymchwil sylfaenol ac arddangosfeydd dilynol. 

Y gwaith?

Datblygwyd model cysyniadol newydd, ‘Show-talk-do’, o'r gyfres o arddangosfeydd, a unodd artistiaid rhyngwladol, gwyddonwyr, ac ymchwilwyr o bob cwr o'r byd, gan greu rhwydwaith newydd a chynnig model newydd i'w ddefnyddio o fewn prosesau ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Beth oedd yr effaith?

Roedd yr ymchwil yn cynnig model cysyniadol newydd i gefnogi curaduron ac ymchwilwyr yn rhyngwladol, ac ysbrydoli dulliau newydd o fynegiant ac arloesedd artistig. Mae'r model yn caniatáu ymchwilwyr a churaduron i feithrin ffyrdd newydd o feddwl a dylanwadu ar arferion creadigol. Gweithiwyd gyda busnesu yng ngogledd Cymru, a chyfrannodd hyn at eu gwytnwch sefydliadol ac agor ffrydiau ariannol newydd a arweiniodd at brosiectau megis EDGE ar gyfer Ysgolion gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn ychwanegol at hyn, denodd yr ymchwil sylw'r cyhoedd at brosesau ymchwil academaidd a helpu ymwelwyr cyhoeddus i gyfrannu at ansawdd y profiad i dwristiaid.

Cyfeiriadau at Ymchwil

Carbon Meets Silicon

Carbon Meets Silicon II

Interdisciplinary Research Unmasked: a new curatorial model for multi-audience engagement

Framing the Conversation: The Role of the Exhibition in Overcoming Interdisciplinary Communication Challenges

 


Allbynnau

Allbwn 1 (Susan Liggett)

Math o allbwn: Pennod Llyfr

Teitl a Disgrifiad: ‘Framing the Conversation: the role of the exhibition in overcoming interdisciplinary communication challenges’ is a contribution to ‘Technology, Design and the Arts - Opportunities and Challenges Part II Chp.3' a olygwyd gan Rae Earnshaw, Susan Liggett, Peter Excell, Daniel Thalmann a Springer Publishers Gorffennaf 2020)

_________________________________________________________________________

Allbwn 2 (Susan Liggett)

Math o allbwn: Pennod Llyfr

Teitl a Disgrifiad: ‘Positioning the Arts in the Research Process’ is a contribution to: ’Technology, Design and the Arts - Opportunities and Challenges, Chapter 2' a olygwyd gan Rae Earnshaw, Susan Liggett, Peter Excell, Daniel Thalmann, ac mae'n rhan o'r Gyfres o lyfrau gan Springer o'r 'Cultural Computing' (SSCC) a gyhoeddwyd (Gorffennaf 2020). 

_________________________________________________________________________

Allbwn 3 (Susan Liggett)

Math o allbwn: Arall - prosiect curadurol

Teitl a Disgrifiad: ‘Carbon Meets Silicon’: arddangosfa, cynhadledd ac erthygl o gyfnodolyn  

Gwybodaeth ychwanegol

Cyflwynir y prosiect curadurol hwn mewn cydrannau gwahanol, ac fe'i cefnogir gan ymchwil mewn tair rhan; arddangosfa (‘Carbon Meets Silicon’; CMSI&II 2015/17), cynhadledd (Internet Technologies and Applications; ITA 2015/17) ac erthygl o gyfnodolyn (‘Interdisciplinary Research Unmasked: a new curatorial model for multi-audience engagement’).

_________________________________________________________________________

Allbwn 4 (Alec Shepley)

Math o allbwn: Arddangosfa

Teitl a Disgrifiad: ‘A Place of Impossibility’

Mae'r cyflwyniad aml-gydran hwn wedi'i gefnogi gan ymchwil mewn dwy ran; arddangosfa gyda chynnig am gyhoeddiad/prosiect, ac erthygl o gyfnodolyn fydd yn cael ei dosbarthu er mwyn i gymheiriaid adolygu'r gwaith. 

Arddangosfa: INSERT2014 o'r enw 'New Models on Common’, Delhi, 2014.

Erthygl o Gyfnodolyn ‘Camping in a Mudhouse: Ruins and Fragments as Tropes of Reflexivity’ (Shepley, A. 2016)

Gwybodaeth Ychwanegol 

Mae sail yr ymarfer, sef yr ymchwil, yn cynnwys gwaith celf myfyrgar, o'r enw ‘A Place of Impossibility’, a cafodd ei ddatblygu ar gyfer datblygiad dinesig dychmygol yn Dehli, a oedd yn gyfraniad at arddangosfa grŵp (tudalen 90 yng nghatalog yr arddangosfa). Roedd y gwaith hwn ymhlith 25 o geisiadau a gafodd eu gwahodd gan Raqs Media Collective i fod yn rhan o arddangosfa a baratowyd fel rhan o INSERT2014, yn dwyn y teitl 'New Models on Common Ground’, Delhi 2014.

____________________________________________________________________________________________________________

Allbwn 5 (Alec Shepley)

Math o allbwn: Arddangosfa  

Teitl a Disgrifiad: Mae ‘Ibid’ yn cynnwys gweithiau celf, arddangosfa unigol yn Amgueddfa Celfyddyd Gain Kuandu, Amgueddfa Celfyddyd Gain Taipei, Yaipei a chatalog o'r amgueddfa (2014/15). 

Gwybodaeth Ychwanegol 

Mae'r cyflwyniad aml-gydran hwn yn cynnwys gwaith celf, arddangosfa, er mwyn gwneud y prosiect ymchwil, sef ‘Ibid’, yn destun adolygu gan gymheiriaid. Mae 'Ibid' yn safle dros dro sy'n cynnwys casgliad o ddarnau, sydd wedi cael ei osod er mwyn dangos proses yr artist o greu a dinistrio i'r gwylwyr. Drwy gyfuno amrywiaeth o gyfryngau a deunyddiau dethol, gan gynnwys testun a fideo, gwrthrychau a ddaethpwyd o hyd iddynt a rhai wedi'u creu, sain a golau, paent, ffotograffiaeth a chrefft llwyfan, mae 'Ibid' yn gwahodd gwylwyr i gerdded o amgylch y safle, dod yn rhan o'r gwaith, a myfyrio ar y posibilrwydd o gynrychiolaeth(au) ystyrlon a newydd. 

Mae Shepley yn un o'r pedwar artist a ddewiswyd o'r alwad gystadleuol ryngwladol ar gyfer 'Power', sef arddangosfa a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr yn Amgueddfa Celfyddyd Gain Kuandu, Taipei, lle cyflwynodd 'Ibid' yn 2014/5.  

Arddangosfa yn Amgueddfa Celfyddyd Gain Kuandu, Amgueddfa Celfyddyd Gain Taipei, Taipei a chatalog o'r arddangosfa (2014/15).

Mae'r gwaith celf yn cynnwys perfformiad wedi'i ffilmio, o'r enw ‘I am from Leonia #5’ sy'n ddogfen ar y gwaith glanhau parhaus a wnaed ar safle hen goleg diwinyddol gwag Sant Pedr, Kilmahew, yr Alban 2014, ac fe'i harddangoswyd fel rhan o 'Ibid' yn Nhaipei.

_________________________________________________________________________

Allbwn 6 (Karen Heald)

Math o allbwn: Arddangosfa

Teitl a disgrifiad cryno: ‘In-between-ness’. 

Gwybodaeth Ychwanegol 

Mae'r cyflwyniad aml-gydran hwn wedi'i gefnogi gan ymchwil mewn tair rhan: gwaith celf, arddangosfa/symposiwm, a phennod mewn llyfr, a dyma sut cafodd y gwaith ei ddosbarthu.  

Roedd 'In-between-ness' yn rhaglen ymchwil yn seiliedig ar arfer, ar y cyd â seiciatrydd clinigol, oedd yn edrych yn fanwl ar newid mewn mynegiant creadigol cleifion cyn, yn ystod ac ar ôl cael triniaeth am idelder, 2012/13.

Cafodd ‘Paper Interior’ ei greu mewn ymateb i 'In-between-ness'. Perfformiad fideo ydyw, gyda'r bwriad o'i arddangos yn ‘Slippage: The Unstable nature of difference’, sef arddangosfa a oedd yn herio ffiniau hunaniaethau corfforol a seicolegol. Cafodd prosiect ymchwil ‘In-between-ness’ ei gyflwyno yn y symposiwm cysylltiedig ar y celfyddydau ac anabledd. 

Mae'r bennod ‘Visual Arts, Mental Health, and Technology’ yn rhoi cyd-destun i brosiect ‘In-between-ness’, drwy egluro sut mae addasu technolegau newydd gan artistiaid wedi cyfrannu at gelfyddydau trawsddisgyblaethol mewn mentrau iechyd sy'n ymdrin ag iechyd meddwl yn y DU.

_________________________________________________________________________

Allbwn 7 (Stephen Kenyon-Owen)

Math o allbwn: Erthygl o Gyfnodolyn

Teitl a Disgrifiad Cryno ‘Choking on the Splinters: Art, the Body, and Processes of Adaptation in the work of Tom de Freston'

 Kenyon-Owen, S. C. (2020) ‘Choking on the Splinters: Art, the Body, and Processes of Adaptation in the work of Tom de Freston', yn Stutesman, D. (ed), FRAMEWORK - The Journal of Cinema and Media, 60.2, Detroit: Wayne State University Press. pp. 151-174.