Uned Asesiad C20:

Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol

Roedd dros 94% o'r allbynnau ymchwil o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol am wreiddioldeb, arwyddocâd, a manyldeb, a 49% o'r ffigwr hwnnw wedi'i bennu i fod yn rhyngwladol rhagorol. Cydnabuwyd astudiaethau achos effaith am eu heffeithiau cymdeithasol o ran eu harwyddocâd a'u cyrhaeddiad, gydag un astudiaeth achos yn cael ei ystyried i fod yn rhagorol ac yn cyflawni sgor 4*.


Astudiaeth Achos Effaith 1: Digartrefedd yng Nghymru

Cefndir

Ariannodd Llywodraeth Cymru archwiliadau i'r polisi cyhoeddus a'r gwasanaethau sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd ac ymdrin ag unigolion sy'n ddigartref ar ôl gadael Sefydliadau Diogel yng Nghymru.

Pwy oedd ynghlwm?

Aeth y tîm Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol at i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid addysg uwch allanol ac awdurdodau lleol.

Y gwaith?

Ymchwiliodd y tîm yn fanwl i sefyllfa'r ddarpariaeth gyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys gwerthuso'r Ddeddf Tai, gweithio gyda rhanddeiliaid (darparwyr gwasanaethau a buddiolwyr), ac ymgysylltu â llunwyr polisi ac ymarferwyr. Canfu'r ymchwil ddiffygion yn y mesurau ataliol sydd ar waith ar hyn o bryd.

Beth oedd yr effaith?

Yn seiliedig ar yr argymhellion a gasglwyd o'r ymchwil, mae digartrefedd bellach yn cael mwy o gydnabyddiaeth, gyda chyhoeddiadau'n cynnig adnoddau ar gyfer ymgyrchoedd a rhaglenni hyfforddi. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion penodol o'r gwerthusiadau, a rhoddwyd cyllid ar gyfer chwe chydlynydd newydd i weithio o fewn Unedau Cyflawni Lleol y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ledled Cymru. Datblygwyd systemau monitro newydd, cyflogwyd Swyddog Llety newydd a chrëwyd swydd newydd ar gyfer Uwch Swyddog Prosiect.

Cyfeiriadau at ymchwil

Gwerthusiad o Ddeddfwriaeth Digartrefedd (Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014): adroddiad terfynol

Gwerthusiad o wasanaethau digartrefedd i oedolion yn yr ystad ddiogel

Adolygiad o Angen Blaenoriaethol yng Nghymru

Introduction: Homelessness Prevention in an International Policy Context

Preventing homelessness among women prison leavers in Wales


Astudiaeth Achos Effaith 2: Dadansoddi Cyfraniadau er mwyn Gwerthuso Strategaeth Polisi Alcohol a Chyffuriau.

Cefndir

Mae Dadansoddi Cyfraniadau yn fath o fethodoleg ansoddol a ddefnyddir i werthuso'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu eu polisi Alcohol a Chyffuriau Eraill.

Pwy oedd ynghlwm?

Aeth aelodau o'r tîm Gwyddorau Cymdeithasol a Throseddeg ati i weithio gyda Figure8 Consultancy a Llywodraeth Cymru.

Y gwaith?

Roedd yr ymchwilwyr wedi ennill tendr gan Lywodraeth Cymru i werthuso gweithrediad y polisi Alcohol a Chyffuriau eraill. Defnyddiwyd dull Dadansoddi Cyfraniadau i werthuso polisi camddefnyddio sylweddau datganoledig Cymru, a oedd yn cynnwys 27 Fframwaith Triniaeth a dogfennau Canllaw a phedwar Cynllun Cyflwyno.

Beth oedd yr effaith?

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru'r ymchwil fel sail ar gyfer dogfen ymgynghori yn arwain ar y Cynllun Cyflwyno nesaf, gan eirioli'n arbennig dros gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gweithio mewn partneriaeth. Defnyddiodd Llywodraeth Cymru bum elfen werthuso a amlinellwyd yn yr ymchwil yn y Cynllun Cyflwyno newydd, er mwyn llywio'r ffordd y cafodd y ddarpariaeth gwasanaeth alcohol a chyffuriau ei chyflwyno ers yr adolygiad. Roedd yr adroddiad Dadansoddi Cyfraniadau hefyd yn argymell mabwysiadu pris gofynnol ar gyfer alcohol ac adolygu’r ffordd caiff data ac ymchwil eu cynnal ar wefan Llywodraeth Cymru - a chafodd y ddau argymhelliad eu datblygu ymhellach gan Lywodraeth Cymru, gyda'r Bil isafbris yn dod i rym yn 2020.

Cyfeiriadau at Ymchwil

Dogfen Ymgynghori Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru (2019), Rhif: WG38273

Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru (2019)

Adapting existing behaviour: Perceptions of substance switching and implementation of minimum pricing for alcohol in Wales

Ymchwil i'r potensial ar gyfer newid sylweddau ar ôl cyflwyno isafswm prisio ar gyfer alcohol yng Nghymru


Allbynnau

Ahmed, A., Madoc-Jones, I., Gibbons, A., Jones, K., Rogers, M., & Wilding, M. (2020). Challenges to implementing the new homelessness prevention agenda in Wales. Social Policy and Society19(1), 157-169.

Galvani, S., Livingston, W., & Morgan, H. (2016). The relationship between sight loss and substance use: Users’ perspectives. Drugs: Education, Prevention and Policy23(6), 476-483.

Gorden, C., Stanton-Jones, H., Harrison, J., & Parry, H. (2021). Experiences of young people with harmful sexual behaviours in a residential treatment programme: a qualitative study. Journal of Sexual Aggression27(2), 153-166.

Greene, A. M., & Robbins, M. (2015). The cost of a calling? Clergywomen and work in the Church of England. Gender, Work & Organization22(4), 405-420.

Livingston, W. (2014). Towards a comprehensive typology of knowledge for social work and alcohol. Social work education33(6), 774-787.

Livingston, W. (2017). Learning about alcohol: Personal experiences taken into social work practice. Practice29(1), 3-18.

Livingston, W., Holloway, K., May, T., Buhociu, M., Madoc-Jones, I., & Perkins, A. (2021). Adapting existing behaviour: Perceptions of substance switching and implementation of minimum pricing for alcohol in Wales. Nordic Studies on Alcohol and Drugs38(1), 22-34.

Livingston, W., Madoc-Jones, I., & Perkins, A. (2020). The potential of Contribution Analysis to alcohol and drug policy strategy evaluation: an applied example from Wales. Drugs: Education, Prevention and Policy27(3), 183-190.

Madoc-Jones, I., Ahmed, A., Hughes, C., Dubberley, S., Gorden, C., Washington-Dyer, K., ... & Wilding, M. (2020). Imaginary homelessness prevention with prison leavers in Wales. Social Policy and Society19(1), 145-155.

Madoc-Jones, I., Hughes, C., Gorden, C., Dubberley, S., Washington-Dyer, K., Ahmed, A., ... & Wilding, M. (2018). Rethinking preventing homelessness amongst prison leavers. European Journal of Probation10(3), 215-231.

Madoc-Jones, I., Jones, D., Parry, O., & Dubberley, S. (2015). “Dangerous conversations”: a case study involving language. Equality, Diversity and Inclusion: An International Journal.

Madoc-Jones, I., Lloyd-Jones, N., Owen, E., & Gorden, C. (2018). Assessing and addressing domestic abuse by Ex-armed service personnel. Probation Journal65(2), 201-218.

Rogers, M., Ahmed, A., Madoc-Jones, I., Gibbons, A., Jones, K., & Wilding, M. (2020). Interrogating the prevention approach of the Housing (Wales) Act 2014 for people with mental health needs who are homeless. Social Policy and Society19(1), 109-120.

Wilding, M., Madoc-Jones, I., Ahmed, A., Gibbons, A., Jones, K., & Rogers, M. (2020). Policy transfer and part 2 of the Housing Act (Wales) 2014. Social Policy and Society19(1), 171-182.