Uned Asesiad B12:
Peirianneg
Roedd dros 86% o'r allbynnau ymchwil o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol am wreiddioldeb, pwysigrwydd, a manwl gywirdeb. Roedd dros 9% o'r ffigwr hwnnw yn cynrychioli ymchwil blaenllaw yn fyd-eang. Roedd 100% o gynnwys yr astudiaethau achos effaith yn dangos effeithiau sylweddol, neu sylweddol iawn, o ran eu pwysigrwydd a'u hymchwil.
Astudiaeth Achos Effaith 1: Llathru a Reolir gan Gyfrifiadur a Mesureg Arwynebau Tra-chywir.
Cefndir?
Mae llathru a reolir gan gyfrifiadur a mesureg arwynebau tra-chywir yn gymhwysedd newydd gan y Grŵp Systemau Optegol Tra-chywir o fewn Glyndwr Innovations Ltd, sef is-gwmni i'r Brifysgol.
Pwy oedd ynghlwm?
Staff peirianneg Canolfan OpTIC, Prifysgol Glyndŵr, campws Llanelwy.
Y gwaith?
Mae'r Ganolfan wedi datblygu capasiti unigryw i gyflwyno cydrannau systemau optegol cymhleth iawn i nifer o sefydliadau diwydiannol sy'n flaenllaw yn y sector peirianneg, awyrofod ac amddiffyn. Roedd y gallu hwn yn seiliedig ar ymchwil ar weithgynhyrchu cydrannau drych asfferig mawr ar gyfer telesgopau enfawr. Mae'r tîm yn parhau i wneud ymchwil a datblygu dulliau llathru a mesureg newydd gydag amrywiaeth o bartneriaid.
Beth oedd yr effaith?
Datblygwyd gallu technolegol unigryw newydd gyfochr ag effeithiau economaidd ffyniannus ar gyfer buddiolwyr, a'r rheiny sy'n cydweithio â Phrifysgol Glyndŵr. Nawr, gall y Brifysgol fodloni'r galw am waith llathru o ansawdd dda ar gyfer amrywiaeth o optegau mawr, a mynd rhagddi i weithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant i gyfoethogi'r arloesiadau technegol ymhellach.
Cyfeiriadau at Ymchwil
The use of diffractive imitator optics as calibration artefacts
Reconstruction of a conic-section surface from autocollimator-based deflectometric profilometry
Astudiaeth Achos Effaith 2: Dylunio a Gweithgynhyrchu Systemau Optegol yn yr Awyr ar gyfer Ffug-loerenni Uchder.
Cefndir?
Mae systemau optegol yn yr awyr yn ddyfeisiau tra-chywir ag arwynebau gwydr, ac maent wedi'u gwneud o ddeunyddiau ysgafn sy'n cael eu gosod ar ffug-loerenni uchder (HAPS), megis lloeren Zephyr gan Airbus.
Pwy oedd ynghlwm?
Staff peirianneg Canolfan OpTIC, Prifysgol Glyndŵr, campws Llanelwy.
Y gwaith?
Yn seiliedig ar ymchwil y tîm ar ddylunio camera delweddu eglur iawn i'w osod ar loeren HAPS, mae'r tîm wedi datblygu prototeip newydd i brofi gofynion lle, pwysau a phŵer y prototeip hwn. Roedd yn rhaid cynnal profion sylweddol ar y prototeip er mwyn sicrhau y byddai'n gallu gwrthsefyll tymheredd poeth a'i fod yn ddigon ysgafn i leihau'r màs.
Beth oedd yr effaith?
Datblygwyd prototeip, y cyntaf o'i fath, i gyd-fynd â phecyn synhwyro a chyfathrebu fydd yn cael ei osod ar loeren HAPS, sydd hefyd yn gweithio â dyfeisiau eraill sydd yn yr awyr. Mae Prifysgol Glyndŵr wedi sefydlu cymhwysedd goruchaf yn y DU a hynny drwy ddylunio a gweithgynhyrchu offeryniaeth optegol ar gyfer peiriant gwylio cyson uchel yn yr awyr. Mae'r cymhwysedd wedi arwain at nifer o gyfleoedd i gydweithio yn y diwydiant, megis gweithio gyda Ordinance Survey, QinetiQ, ac Airbus.
Cyfeiriadau at Ymchwil
Development of a lightweight camera for high altitude platform systems