Mae astudio ar gyfer MPhil neu PhD yn weithgaredd unigol i raddau helaeth, ac mae pynciau ymchwil yn amrywio’n fawr, yn ôl eich cryfderau academaidd a’ch diddordebau personol. Asesir y dyfarniadau yma ar sail traethawd ymchwil sy’n dangos ymchwil unigol. I ganfod mwy am astudio ar gyfer gradd ymchwil a sut i ymgeisio, cliciwch yma. Noder mai Prifysgol Caer yw ein corff dyfarnu ar gyfer graddau ymchwil.
Pan fyddwch yn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig, fe ddewch yn rhan o gymuned ymchwil fywiog a chefnogol ble byddwn yn helpu i feithrin eich diddordebau a datblygu sgiliau a mewnwelediadau sy’n hanfodol i’ch cynnydd i’r dyfodol.
Cydlynir gweithgareddau ymchwil y Brifysgol gan y Canolfannau Ymchwil Prifysgol ar draws ein dwy Gyfadran. Mae’r tîm Gweinyddu Myfyrwyr yn darparu cymorth gweinyddol a nhw yw eich prif bwynt cyswllt.
Mae’r Rhaglen Datblygu Ymchwilydd yn creu amgylchedd dysgu sydd yn caniatâu i ymchwilwyr o bob disgyblaeth ar draws y Brifysgol wella eu sgiliau ar gyfer profiad ymchwil a gyrfa lwyddiannus. Mae’n seiliedig ar Fframwaith Datblygu Ymchwilydd Vitae.
Cymorth i Ymchwilwyr
Ymhlith y cymorth ar gyfer ymchwilwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr mae:
Hyfforddi a datblygu ar gyfer staff a myfyrwyr
Cyngor a chymorth ar gymeradwyaeth foesegol ar gyfer ymchwil
Cymorth gyda cheisiadau cyllido, hawliadau a chloi prosiectau
Cyngor ar eiddo deallusol
Drafftio a chwblhau contractau a chytundebau
Galluogi mynediad agored ar gyfer allbynnau ymchwil
Cefnogi effaith ac ymgysylltiad allanol
Mae gwaith y Brifysgol yn cael ei lywio gan y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr ac rydym yn cydweithio ar gefnogi a hyfforddi ymchwilwyr gyda sefydliadau eraill. Mae’r Brifysgol yn meddu ar Ddyfarniad Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Gwaith Ymchwil.