Meistr Athroniaeth (MPhil): Mae’r MPhil yn radd ymchwil dan oruchwyliaeth sydd yn cymryd blwyddyn i’w chwblhau. Mae modd astudio’n rhan amser ac mae’n galw am astudiaeth fanwl mewn maes penodol.
Doethur Athroniaeth (PhD): Mae PhD yn radd ymchwil ôl-raddedig dan oruchwyliaeth sydd fel rheol yn cymryd tair blynedd, amser llawn, i’w chwblhau (ond mae modd astudio’n rhan amser hefyd). Mae eich ymchwil yn cael ei gofnodi ar ffurf traethawd ymchwil sylweddol, ac mae’n rhaid ichi ddangos tystiolaeth o wreiddioldeb, barn feirniadol a bod ar flaen y gad yn y pwnc a ddewiswyd gennych.
Meistr Ymchwil (MRes): Gan ganolbwyntio ar sgiliau ymchwil (ond gydag elfen a addysgir), bydd Meistr Ymchwil yn rhoi sail gadarn yn y sgiliau sydd eu hangen i barhau eich astudiaethau i lefel PhD.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig graddau Mhres mewn ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys:
Gwyddor Chwaraeon, Ymarfer Corff ac Iechyd
Cemeg Ddadansoddol a Fforensig
Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg
Seicoleg
Ymchwil Clinigol Cymhwysol
Ymchwil Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol
Dulliau Astudio
Rhaglen
Dull Astudio
Cyfnod cofrestru lleiaf*
Cyfnod Cyflwyno hwyaf
Cyfnod Cofrestru hwyaf
PhD
Amser llawn
2 flynedd
4 blynedd
10 mlynedd
Rhan amser
4 blynedd
7 blynedd
10 mlynedd
MPhil
Amser llawn
1 flwyddyn
4 blynedd
8 mlynedd
Rhan amser
2 flynedd
6 mlynedd
8 mlynedd
*Noder y cyfnod cofrestru lleiaf cyn cyflwyno traethawd – ni chaniateir cyflwyno’n gynnar cyn yr amser yma.