Dysgwch mwy mewn digwyddiad pwnc.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gwrs neu bwnc penodol, mae ein digwyddiadau pwnc ar-lein ac ar y campws yn gyfle gwych i siarad â darlithwyr a dysgu mwy am astudio yn Wrecsam.

Ydych chi'n fyfyriwr neu'n ysgol? Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein Diwrnodau Darganfod i ddarganfod mwy ym Mhrifysgol Wrecsam trwy gael profiad ymarferol o sut beth yw bod yn fyfyriwr prifysgol. 

What's on

Dydd Mercher 5 Mehefin 2024

Gweithdy Iechyd Meddwl a Lles

Ydych chi’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac yn awyddus i uwchsgilio? A oes gennych chi radd israddedig ac a ydych chi’n pendroni ynghylch a fyddai gradd Meistr yn addas i chi?

Ydych chi wedi bod yn ystyried newid gyrfa i gael mwy o foddhad o’ch bywyd gwaith? Beth am ddod i’r sesiwn hamddenol ac anffurfiol hon sy’n archwilio sut beth yw astudio ar lefel Meistr, beth sy’n ynghlwm â’r maes pwnc iechyd cyhoeddus, iechyd meddwl a llesiant a pha gyfleoedd sydd ar gael i weithio yn y sector egnïol a gwerth chweil hwn? 

Cyflwynir y sesiwn hon gan arweinydd y rhaglen MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Llesiant, ac fe’i cyflwynir ar ffurf gweithdy lle bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chael sgwrs anffurfiol ymhlith yr holl fynychwyr. 

Cynhelir y digwyddiad hwn ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mercher 5 Mehefin 2024, 09:30-12:00, Wrecsam Campws Plas Coch - Archebwch nawr

notepad coffee and croissant
Dyddiadau lluosog

A yw gradd chwaraeon i chi?

Mae’r profiad ‘A yw gradd chwaraeon i chi?’ ar gyfer myfyrwyr sy’n ystyried astudio’r cwrs Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cymhwysol (GChYCC) wedi’i achredu gan BASES.

Mae’r sesiwn hon yn cynnwys:

  • Sgwrs gyflwyno – lle bydd y cwrs GChYCC yn cael ei ddisgrifio’n fanylach, gyda gwybodaeth ynghylch y modiwlau a astudir, yr offer a ddefnyddir, y lleoliadau a ddefnyddir a’r cymwysterau ychwanegol di-dâl (L2 Hyfforddwr Campfa a L3 Atgyfeiriad Ymarfer Corff/Hyfforddwr Personol).
  • Taith o gwmpas y campws – Bydd unigolion yn cael mynd o gwmpas campws Plas Coch, i weld undeb y myfyrwyr, y llyfrgell, y darlithfeydd a’n Labordy Biomecaneg newydd sbon. 
  • Sesiwn holi ac ateb – lle bydd cyfle i unigolion ofyn unrhyw gwestiynau ynghylch y rhaglen, staff neu gyfleusterau.
    Dewch i ymuno â phobl o feddwl tebyg i chi sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff!

Dyddiadau:

Dydd Mawrth Mehefin 4ydd - 3-4pm
Dydd Mawrth 9fed Gorffennaf - 3-4pm
Dydd Mawrth 6ed Awst - 3-4pm
Dydd Mawrth Medi 3ydd - 3-4pm

Archebwch nawr

Dydd Mercher 5 Mehefin

Hygyrchedd y tu hwnt i’r gadair olwyn

Cyfres o ddigwyddiadau dysgu a gynhelir yn ystod yr haf yw Dysgu ar Nosweithiau Golau. Mae’r digwyddiadau hyn yn archwilio materion cyfamserol yn ymwneud â llesiant mewn ffordd greadigol a diddorol. Pam na wnewch chi fanteisio ar y nosweithiau goleuach a dod draw i’r sesiynau? Maent yn ddelfrydol ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y maes llesiant ar hyn o bryd, neu sydd â diddordeb mewn astudio neu weithio yn y maes hwn.

Bydd y gweithdy treiddgar hwn yn archwilio’r rhwystrau sy’n wynebu pobl pan fyddant yn mynd i fannau newydd, a sonnir am y newidiadau bach y gellir eu gwneud i oresgyn y rhwystrau hyn.

Caiff y sesiwn hon ei chydgynhyrchu gyda Karen Williams, Cyfarwyddwr y fenter gymdeithasol wobrwyol Familiarisation Videos.

6.00pm – 6.30pm – coffi a rhwydweithio
6.30pm – 7.30pm – Dysgu ar nosweithiau golau

Archebwch Nawr

student in wheelchair with coffee cup
Dydd Mercher 12 Mehefin

Beth am gael paned?

Cyfres o ddigwyddiadau dysgu a gynhelir yn ystod yr haf yw Dysgu ar Nosweithiau Golau. Mae’r digwyddiadau hyn yn archwilio materion cyfamserol yn ymwneud â llesiant mewn ffordd greadigol a diddorol. Pam na wnewch chi fanteisio ar y nosweithiau goleuach a dod draw i’r sesiynau? Maent yn ddelfrydol ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y maes llesiant ar hyn o bryd, neu sydd â diddordeb mewn astudio neu weithio yn y maes hwn.

Bydd y gweithdy hwn yn archwilio pa mor bwerus yw paned o de i gysylltu, adfer a lleddfu. Pam ydym yn troi at y tegell? Sut y mae hyn yn effeithio ar ein llesiant? Beth yw’r cysylltiad rhwng yfed te a’r sgyrsiau a gawn?

Caiff y sesiwn hon ei chydgynhyrchu gyda Jane Edwards, Swyddog Cymorth Hwb Cymunedol AVOW.

6.00pm – 6.30pm – coffi a rhwydweithio
6.30pm – 7.30pm – Dysgu ar nosweithiau golau

Archebwch Nawr

female holding hot drink
Dydd Mercher 19 Mehefin

Planhigion y tu hwnt i’r plât

Cyfres o ddigwyddiadau dysgu a gynhelir yn ystod yr haf yw Dysgu ar Nosweithiau Golau. Mae’r digwyddiadau hyn yn archwilio materion cyfamserol yn ymwneud â llesiant mewn ffordd greadigol a diddorol. Pam na wnewch chi fanteisio ar y nosweithiau goleuach a dod draw i’r sesiynau? Maent yn ddelfrydol ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y maes llesiant ar hyn o bryd, neu sydd â diddordeb mewn astudio neu weithio yn y maes hwn.

Rydych wedi meithrin a thyfu planhigion a blodau ers i’r gwanwyn gyrraedd, ond erbyn hyn mae gennych ormodedd ac ni allwch wynebu pryd cartref iach arall. Bydd y gweithdy arloesol a chreadigol hwn yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio amrywiaeth eang o blanhigion bwytadwy a ‘chwyn’, fel y’u gelwir, i greu eitemau ecogyfeillgar hardd. Ni fyddwch angen sgiliau garddio!

Caiff y sesiwn hon ei chydgynhyrchu gyda Gardd Furiog Fictoraidd Erlas.

6.00pm – 6.30pm – coffi a rhwydweithio
6.30pm – 7.30pm – Dysgu ar nosweithiau golau

Archebwch Nawr

A Bee on flowers
Dydd Mercher 26 Mehefin

Sut y gall gweithgarwch corfforol fod yn fater iechyd y cyhoedd?

Cyfres o ddigwyddiadau dysgu a gynhelir yn ystod yr haf yw Dysgu ar Nosweithiau Golau. Mae’r digwyddiadau hyn yn archwilio materion cyfamserol yn ymwneud â llesiant mewn ffordd greadigol a diddorol. Pam na wnewch chi fanteisio ar y nosweithiau goleuach a dod draw i’r sesiynau? Maent yn ddelfrydol ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y maes llesiant ar hyn o bryd, neu sydd â diddordeb mewn astudio neu weithio yn y maes hwn.

Bydd y gweithdy hwn yn cyfuno dealltwriaeth academaidd gydag ymarfer yn y byd go iawn trwy archwilio rôl gweithgarwch corfforol mewn gwaith iechyd y cyhoedd. A ddylai gweithgarwch corfforol fod yn waith i dimau iechyd y cyhoedd? Pa enillion cyflym y gellir esgor arnynt ar gyfer poblogaethau llonyddach? Faint o ymarfer corff y mae angen ei wneud i ddechrau teimlo’r manteision (iechyd)?

Caiff y sesiwn hon ei chydgynhyrchu gyda Robin Ranson, Uwch-ymarferydd Gwella Iechyd yn Nhîm Gwella Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

6.00pm – 6.30pm – coffi a rhwydweithio
6.30pm – 7.30pm – Dysgu ar nosweithiau golau

Archebwch Nawr

Students playing football
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024 5:30-6:30pm

Monster – Aileen Wuornos

Ymunwch â ni wrth inni drafod sut caiff Aileen Wuornos ei chynrychioli yn y ffilm ‘Monster’. Bydd y sesiwn yn archwilio sut caiff aml-lofruddwyr benywaidd a’r unigolion hynny nad ydynt yn perthyn i statws 'Dioddefwr Perffaith’ yn cael eu portreadu.

NODER: Nid oes rhaid i chi wylio’r ffilm i gymryd rhan yn y dosbarth meistr hwn.

18+ YN UNIG

Archebwch Nawr / Gwylio

Crime scene tape with police car in background
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024 5:30-6:30pm

Extremely Wicked, Shockingly Evil and Vile – Ted Bundy

Ymunwch â ni wrth inni drafod sut caiff Ted Bundy ei gynrychioli yn y ffilm ‘Extremely Wicked, Shockingly Evil and Vile’. Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r ‘Effaith Eurgylch’ o fewn y System Cyfiawnder Troseddol a’r ffordd caiff aml-lofruddwyr eu ‘glamoreiddio’.

NODER: Nid oes rhaid i chi wylio’r ffilm i gymryd rhan yn y dosbarth meistr hwn.

18+ YN UNIG

Archebwch Nawr / Gwylio

film action board
Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024 5:30-6:30pm

The Silence of the Lambs – Alfredo Ballí Treviño

Ymunwch â ni wrth inni drafod sut caiff Alfredo Ballí Treviño ei gynrychioli yn y ffilm ‘The Silence of the Lambs’. Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae’r cyfryngau’n gorliwio achosion a phortread rheibus aml-lofruddwyr.

NODER: Nid oes rhaid i chi wylio’r ffilm i gymryd rhan yn y dosbarth meistr hwn. 

18+ YN UNIG

Archebwch Nawr / Gwylio

Crime scene tape with police car in background