Students looking at ucas website on a laptop

Ysgolion a Cholegau

Nid yw erioed yn rhy fuan i ddechrau meddwl am eich dyfodol.

Rydym yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr o bob oedran, athrawon, rhieni/gwarchodwyr a chynghorwyr gyrfaoedd i gynnig rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth ac annog dyheadau addysg uwch, i annog pobl ifanc i gysidro'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o weithio'n agos gydag athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd, a'r rôl hanfodol maent yn chwarae i sicrhau fod gan y myfyrwyr fynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg uwch.

Mae bod yn brifysgol lai yn gweithio i'n mantais gan ein bod ni ym Mhrifysgol Glyndŵr yn cymysgu pwysigrwydd academia gyda synnwyr cymunedol cryf. Rydym yn canolbwyntio ar y myfyrwyr, dan arweiniad y farchnad ac yn agored i bawb.

Beth rydym yn gwneud

Boed o'n ymweliad rhithwir neu gorfforol, rydym yma i'ch helpu chi i ddarganfod ychydig mwy amdanom ni a beth allem ni wneud i chi.

A student on a computer

Ehangu mynediad

Beth bynnag ydi'ch cefndir, oed, rhyw neu anabledd, rydym yn cynnig cymorth a chyngor i'ch helpu i lwyddo yma.

Camera in front of green screen

Sbotolau arCyfryngau Creadigol

Darganfyddwch mwy am ein cwrs Cynhyrchu Cyfryngau.