MYFYRIO AR Y CYMORTH CYMUNEDOL A RODDODD PGW YN YSTOD PANDEMIG COVID-19

I nodi dechrau Wythnos Gwyddoniaeth Prydain ar Mawrth 5 a Diwrnod Iechyd y Byd ar Ebrill 7, roeddem yn meddwl y byddem yn bachu ar y cyfle i dynnu sylw a myfyrio ar ymdrechion anhygoel staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam tros y flwyddyn ddiwethaf.

Llety

Bu gweithwyr allweddol oedd yn mynd i’r afael â’r pandemig yn aros mewn llety a ddarparwyd gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Symudodd gweithwyr oedd mewn rolau allweddol yn Ysbyty Maelor Wrecsam i mewn i’n llety myfyrwyr ym mis Ebrill 2020. Am fod ein neuaddau myfyrwyr yn wag, gwelodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, bod hyn yn gyfle i gefnogi gweithwyr allweddol, mewn ymdrech i helpu i gadw ein GIG ar fynd. Fe wnaethom ni hefyd ganiatáu i’r cyngor ddefnyddio ein hen lety myfyrwyr i fod yn llety dros dro ar gyfer y digartref. 

Cyfarpar Diogelu Personol

Bu staff ar draws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cydweithio i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol megis mygydau wyneb, menig, ffedogau a mwy yn cael rhoi i Ysbyty Maelor Wrecsam. Rhoddodd y brifysgol gyflenwadau a gwirfoddolwyr i gyfleuster cynhyrchu cyfarparu diogelu personol a sefydlwyd yn Wrecsam i helpu gweithwyr gofal iechyd ar reng flaen coronafeirws. Yn dilyn y rhodd cyntaf o offer perthnasol o Gyfadran Y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg y brifysgol, darparwyd rhoddion pellach o ddeunyddiau crai ac argraffwyr 3D i Hwb Wrecsam. Bu tîm sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan Technoleg OpTIC Glyndŵr yn Llanelwy hefyd yn gweithio i gynhyrchu offer diogelu personol gan ddefnyddio technoleg argraffu 3D - a chysylltu gydag Ysbyty Glan Clwyd i sicrhau eu bod yn cyrraedd y staff gofal iechyd oedd eu hangen fwyaf.

Gwirfoddolwyr

Roedd tîm o wirfoddolwyr gan gynnwys saff a thîm o ddeg o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam hefyd wrth law i gynnig cefnogaeth. Gweithiodd Uwch-ddarlithydd PeiriannegMartyn Jones, i gydlynu cyflenwadau a gwirfoddolwyr o’r brifysgol. Gwirfoddolodd nifer o’n cyn-fyfyrwyr yn yr Hwb, gan gynorthwyo gyda’r gwaith o greu a rhoi cyfarpar diogelu personol i’r ysbyty lleol yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Mae hefyd dal i fod gwirfoddolau wedi'i lunio o fyfyrwyr Gwyddoniaeth Fforensig wrth law i weithio ym sector marwolaethau'r GIG os oes angen.

Y Ganolfan Frechu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn falch o fod yn lleoliad ar gyfer canolfan frechu Covid-19 ar dir y prif gampws. Canolfan Catrin Finch, sydd fel arfer yn cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau, dramâu a gweithdai, oedd y Ganolfan Frechu Leol gyntaf i agor yng Ngogledd Cymru. Ers iddi agor ar Ionawr 26 2021, mae wedi parhau i chwarae rhan annatod wrth gyflwyno brechiadau. Mae brechiadau yn parhau i fod drwy apwyntiadau yn unig

Er nad ydym eto wedi gweld cefn yr afiechyd ofnadwy hwn, gobeithiwn fod ein hymdrechion a’n cefnogaeth i’r gymuned leol wedi cynorthwyo’r GIG i barhau gyda’u gwaith arwrol.

 

Ysgrifennwyd gan Bethan Rumsey, Swyddog Ymgysylltu Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.