Bwriad Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw helpu i gynyddu hyder mewn awdurdodau cyhoeddus trwy fwy o dryloywder a bod yn agored am weithdrefnau a gwneud penderfyniadau. Mae llawer iawn o wybodaeth eisoes ar gael yn rheolaidd gan y Brifysgol; mae Rhyddid Gwybodaeth yn expands this to include all information held by the University. ehangu hyn i gynnwys yr holl wybodaeth sydd gan y Brifysgol. Mae Rhyddid Gwybodaeth yn gosod dau brif gyfrifoldeb ar y Brifysgol:

I gynhyrchu Cynllun Cyhoeddi

O dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Brifysgol gynhyrchu Cynllun Cyhoeddi sy'n nodi'r holl wybodaeth y mae'r Brifysgol eisoes yn ei chyhoeddi. Mae'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth megis strwythur Pwyllgorau'r Brifysgol, dyddiadau tymor, gweithdrefnau etc. Bydd y Cynllun Cyhoeddi yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd; dylid anfon unrhyw syniadau am gynnwys ychwanegol at foi@glyndwr.ac.uk

Content Accordions

Ymateb i geisiadau am wybodaeth

Mae Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl mynediad i bawb sydd y tu mewn ac y tu allan i'r Brifysgol at wybodaeth a gofnodwyd sydd gan y Brifysgol. Mae gan unigolion yr hawl i gael gwybod a oes gan y Brifysgol yr wybodaeth ai peidio ac os ydyw, i'r wybodaeth gael ei chyfathrebu iddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd, gwybodaeth gynllunio, adroddiadau ac ati. Gall unrhyw un ofyn am gael mynediad i'r wybodaeth hon, rhaid gwneud y cais mewn ffurf gofnodedig (e-bost, llythyr) a gellir ei roi/ei gyfeirio at unrhyw aelod o staff yn y Brifysgol. Nid oes raid i'r sawl sy'n gofyn am esbonio pam maen nhw am gael y wybodaeth, mae'n ddigon gofyn am y wybodaeth a rhoi enw a manylion cyswllt i ddarparu'r wybodaeth.

Mae gan y Brifysgol 20 diwrnod gwaith i ddelio â'r cais.

Mae'n bwysig nodi nad yw Rhyddid Gwybodaeth yn golygu bod yn rhaid darparu'r holl wybodaeth mewn ymateb i gais, mae yna resymau yn cynnwys Diogelu Data, Cyfrinachedd a Buddiannau Masnachol a allai eithrio'r wybodaeth rhag cael ei darparu.

Mae rhestr lawn o eithriadau i'w gweld yn y wybodaeth fanylach.

Am ragor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, darllenwch ein Polisi Rhyddid Gwybodaeth.

Adolygiad Mewnol

Os yw'r sawl sy'n gofyn am yr wybodaeth (y ceisydd) yn anfodlon ar sut y cafodd ei gais ei drin neu am ofyn am  adolygiad mewnol, gallant gysylltu â'r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth yn foi@glyndwr.ac.uk o fewn 40 niwrnod i dderbyn ymateb y Brifysgol.

Bydd uwch aelod o staff, nad yw wedi bod yn rhan o'r cais, yn cynnal adolygiad mewnol i sicrhau bod y broses briodol wedi'i dilyn ac i benderfynu a yw rhesymu cadarn yn unol â'r DRhG neu'r EIR wedi ei ddilyn ai peidio. Gellir codi cwyn lle credir bod y Brifysgol:

  • Wedi methu ag ymateb i'r cais o fewn y terfynau amser (fel arfer 20 niwrnod gwaith)
  • Wedi methu â dweud wrth y ceisydd a yw'r wybodaeth yn cael ei chadw ai peidio
  • Wedi methu â darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani
  • Wedi methu ag esbonio'r rhesymau dros wrthod cais
  • Wedi methu â chymhwyso eithriad yn gywir

Bydd yr achwynydd yn cael gwybod am ganlyniad yr adolygiad mewnol o fewn 40 niwrnod gwaith, yn unol â chanllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd yr Adolygiad naill ai'n cadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol, gan roi esboniad ychwanegol o'r eithriad a ddefnyddiwyd neu'n rhyddhau rhagor o wybodaeth os ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny.

Gall ceisydd hefyd gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

wales@ico.org 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House,

Water Lane,

Wilmslow,

Swydd Gaer,
SK9 5AF

www.ico.org.uk

 

ADOLYGWYD MEWNOL AWDURDODEDIG

Is-Ganghellor

Yr Athro Maria Hinfelaar

Dirprwy i'r Is-Ganghellor

Yr Athror Claire Taylor

Dirprwy Is-Ganghellor

Yr Athro Aulay Mackenzie

Cyfarwyddwr Cyllid

David Elcock

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Lynda Powell

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Peter Gibbs

Ymgynghorydd Gwasanaethau Cyfreithiol

Joy Morton